De Excidio Britanniae: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 9:
Nid oes sicrwydd o ddyddiad y ''De Excidio'', ond gan ei fod yn condemnio Maelgwn Gwynedd fel teyrn oedd ar ei orsedd ar y pryd, rhaid ei fod yn dyddio o hanner cyntaf y [[6ed ganrif]]. Yn ôl yr [[Annales Cambriae]], bu Maelgwn farw yn [[547]].
 
Mae y ''De Excidio'' o bwysigrwydd mawr fel un o’r ychydig o weithiau i oroesi o’r cyfnod yma yn hanes Prydain, ond rhaid cofio nad hanesydd oedd Gildas. Mae'r hanesydd [[John Davies (hanesydd)|John Davies]] yn ''Hanes Cymru'' yn ei ddisgrifio fel "pregethwr crac" tra bod [[A. W. Wade-Evans]] yn cyfeirio at y ''De excidio'' fel y llyfr a fu'n gyfrifol am osod seiliau [[hanes Cymru]] "ar gors o gelwydd" am ganrifoedd maith. Defnyddiwyd y llyfr yn helaeth gan [[Beda]] yn ei hanes ef, ''[[Historia Ecclesiastica Gentis Anglorum]]'', gan ddatblygu dadl Gildas yn y ''De Excidio'' fod y Brythoniaid wedi colli rheolaeth ar Brydain fel cosb Duw am eu pechodau.