De Excidio Britanniae: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 1:
Llyfr [[Lladin]] o waith y mynach Brythonaidd [[Gildas]] yw '''''De Excidio Britanniae''''' ("Ynghylch Dinistr Prydain"). Mae’r llyfr yn bregeth gyda thair rhan:
 
Yn y rhan gyntaf mae Gildas yn egluro ei reswm dros ysgrifennu’r llyfr a rhoi amlinelliad o hanes Prydain dan [[yr Ymerodraeth Rufeinig]] ac wedi ymadawiad y llengoedd, hyd at gyfnod Gildas ei hun. Thema Gildas yw fod y Brythoniaid wedi colli rheolaeth ar Brydain i'r [[Sacsoniaid]] fel cosb Duw am eu pechodau. Yr unig un o arweinwyr y Brythoniaid y mae Gildas yn ei ganmol yw [[Emrys Wledig]], "Ambrosius Aurelianus". Dywed Gildas fod Emrys o deulu Rhufeinig, a'i fod wedi casglu lluoedd ynghyd i wrthwynebu'r Saeson, gan ennill buddugoliaethau yn eu herbyn.

Cyfeiria at [[Brwydr Mynydd Baddon|Frwydr Mynydd Baddon]], ond nid yw’n crbwyll enw arweinydd y Brythoniaid yn y frwydr hon. Nid yw’n crybwyll enw [[Arthur]], a gysylltir a brwydr Mynydd Baddon gan [[Nennius]] yn ddiweddarach. Wrth drafod Mynydd Baddon, mae Gildas i bob golwg yn dweud fod y frwydr wedi ei hymladd yr un flwyddyn ag y ganed ef ei hun, er fod y gwreiddiol [[Lladin]] yn anodd yn y frawddeg yma (''quique quadragesimus quartus (ut novi) orditur annus, mense iam uno emenso, qui et meae nativitatis est'').
 
Mae'r ail ran yn dechrau trwy ddweud ''Reges habet Britannia, sed tyrannos, iudices habet, sed impios'' ("Mae gan Brydain freninhoedd, ond gormeswyr ydynt; mae ganmddi farnwyr ond annuwiol ydynt …"). Aiff ymlaen i gondemnio pum teyrn wrth eu henwau: [[Constantinus]] o [[Dumnonia]], [[Aurelius Caninus]], [[Vortiporius]], teyrn y [[Demetae]] ([[Dyfed]]), [[Cuneglas|Cuneglasus]] a [[Maelgwn Gwynedd]] (Maglocunus ).