Ffosffad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Symud cynnwys o Ffosfforws i Ffosffad |
B newid linc |
||
Llinell 45:
== Ffynonellau diwydiannol ffosfforws ==
O amaethyddiaeth y daw'r galw diwydiannol fwyaf am
Ers yr 1890au mwyngloddio creigiau ffosffad anorganig bu brif ffynhonnell yr elfen. Ar ffurf (amhur) ffosffad [[calsiwm]] (apatit) y mae'r rhan fwyaf ohono. Fe'i ffurfiwyd o waddodion morol dros filiynau o flynyddoedd cyn dod i'r wyneb drwy symudiadau [[Tectoneg platiau|tectonig]] y ddaear. Yn yr [[Unol Daleithiau America|Unol Daleithiau]] cychwynnodd y diwydiant, ond mae bellach cyflenwadau sylweddol ohono yn [[Tsieina]] a [[Rwsia]]. Ond o bwys yn yr hinsawdd geo-wleidyddol bresennol yw bod tua hanner cyflenwad y byd i'w canfod mewn gwledydd arabaidd<ref>{{eicon en}} http://minerals.usgs.gov/minerals/pubs/commodity/phosphate_rock/ Darllennwyd 17 Ebrill 2017.</ref> , yn bennaf [[Moroco]], lle mae dros 70% ar hyn o bryd. Nid yw'r broses o fwyngloddio yn garedig i'r amgylchedd am sawl reswm. Un yw presenoldeb [[Metel|metalau]] trwm gwenwynig (Cd, Pb, Ni, Cu, Cr ac U) yn y creigiau. Mae hanes gwlad-ynys fechan [[Nawrw]] (y drydedd lleiaf yn y byd, ar ôl y [[Y Fatican|Fatican]] a [[Monaco]]) yn enghraifft o'r ddilema wleidyddol-fasnachol. Am rai degawdau ar ôl yr ail ryfel byd roedd gan y brodorion un o safonau byw ucha'r [[Y Cefnfor Tawel|Môr Tawel]], ac yn y 1960au hwyr a'r 1970au cynnar roedd gan ei phoblogaeth o ryw 10,000 yr incwm yn ôl y pen uchaf o unrhyw wlad yn yr holl fyd. Erbyn 2000 'roedd y mwyn wedi'i llwyr disbyddu. O 2001 i 2007 bu'r ynys yn ddibynnol ar gytundeb i gynnar carchar ar gyfer Llywodraeth [[Awstralia]]. Gyda 10% o'r boblogaeth yn dibynnu arno, daeth tlodi yn sgil ei gai yn 2008 ac fe'i ail hagorwyd yn garchar i [[Ffoadur|ymgeiswyr lloches]] yn 2012<ref>{{eicon en}} http://www.dailytelegraph.com.au/follow-fraser-not-howard-senate-told/news-story/5f9b57540d23b5f1f532cf1d4af61f9f ''"Asylum bill passes parliament". [[The Daily Telegraph (Australia)|The Daily Telegraph]]. 16 Awst 2012. Darllennwyd 17 Ebrill 2017.''</ref>.
|