Twrch Trwyth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
[[Baedd Gwyllt]] a ffyrnig y ceir hanes ei hela yn y chwedl ''[[Culhwch ac Olwen]]'' yw'r '''Twrch Trwyth'''.
 
Ceir cyfeiriadau cynharach ato yn y gerdd 'Gorchan Cynfelyn' yn ''[[Llyfr Aneirin]]'' ac yn y rhestr o [[Rhyfeddodau Prydain|Ryfeddodau Prydain]] ar ddiwedd ''[[Historia Brittonum]]'' [[Nennius]].
 
Yn ''Culhwch ac Olwen'' un o'r [[anoethau]] a osodir ar yr arwr [[Culhwch]] gan [[Ysbaddaden Bencawr]] yw cael y grib a'r gwellau sydd rhwng dau glust y Twrch Trwyth. Mae [[Arthur]] a'i wŷr yn hela'r Twrch ar ran Culhwch gan ei dilyn trwy goedwigoedd ac anialdiroedd yn ne Cymru, gan gynnwys [[Buallt]], am naw niwrnod a naw nos. Yn ôl y chwedl, brenin a drowyd yn faedd fel dial arno gan Duw yw'r Twrch. Mae ganddo naw o foch bychain sydd bron iawn mor ffyrnig ag ef ei hun. Cais Arthur gael trafodaeth ag ef oherwydd ni thycia'r hela o gwbl, er iddo ladd un o'r moch bychain. Ond gwrthod mae'r Twrch a dianc dros y môr i [[Iwerddon]]. Dychwela i [[Cymru|Gymru]] a glanio ym [[Porth Clais|Mhorth Clais]] yn [[Dyfed|Nyfed]] ac mae'r hela'n cychwyn o'r newydd. Y tro yma mae Arthur a'i wŷr yn ei hela trwy [[afon Hafren]] i [[Cernyw|Gernyw]]. Lleddir y chwech moch arall ond mae'r Twrch Trwyth ei hun yn dianc i'r môr ar ôl i Arthur lwyddo i gael y grib a'r gwellau o'r diwedd, ar ôl ymladd ffyrnig.