Eifionydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
ehangu
Llinell 3:
Mae '''Eifionydd''' yn ardal sy'n cynnwys de-ddwyrain [[Penrhyn Llŷn]] yng [[Gwynedd|Ngwynedd]]. Mae'n ymestyn o ardal [[Porthmadog]] yn y dwyrain, lle mae'r [[Traeth Mawr]] yn ffin, hyd [[Afon Erch]], ychydig i'r dwyrain o dref [[Pwllheli]]. Yn wreiddiol roedd yn un o ddau [[cwmwd|gwmwd]] cantref [[Dunoding]], ond yn wahanol i lawer o gymydau Cymru, mae'r enw yn parhau i gael ei ddefnyddio am yr ardal.
 
Eifionydd oedd y rhan ogleddol o gantref Dunoding. Yn ôl y traddodiad cafodd ei enw o Eifion fab Dunod. Roedd Dunod, a roddodd ei enw i'r cantref, yn un o feibion [[Cunedda Wledig]]. Canolfan y cantref yn y cyfnod diweddar oedd [[Cricieth]], ond efallai y bu canolfan gynharach yn [[Dolbenmaen|Nolbenmaen]].

Ar hyn o bryd nid yw Eifionydd yn uned o lywodraeth leol, ond defnyddir yr enw yn gyffredin, er enghraifft "Ysgol Eifionydd" ym Mhorthmadog. Mae Eifionydd yn cynnwys pentrefi [[Abererch]], [[Llanaelhaearn]], [[Pencaenewydd]], [[Llangybi]], [[Llanystumdwy]], [[Rhoslan]], [[Pentrefelin]], [[Penmorfa]], [[Garndolbenmaen]], [[Golan, Gwynedd|Golan]] [[Bryncir]] a [[Pantglas]].
 
===Enwogion y gorffennol===
*[[Syr Hywel y Fwyall]] (1300?-1381?)
*[[Ieuan ap Robert]] (1437-1468)
*[[Cadwaladr Cesail]] (1560?-1625?)
*[[John Owen, Plas Du]] (1564?-1622?)
*Syr [[John Owen, Clenennau]] (1600-1666)
*[[Owen Gruffydd]], [[Llanystumdwy]] (1643-1730)
*[[Edward Samuel]] (1673-1748)
*[[Dafydd y Garreg Wen]] (1711-1741)
*[[John Thomas (hynafiaethydd)]] (1736-1769)
*[[Robert Jones, Rhoslan]] (1745-1829)
*[[Robert ap Gwilym Ddu]] (1767-1850)
*[[Pedr Fardd]] (1775-1845)
*[[Dewi Wyn o Eifion]] (1784-1841)
*[[Ellis Owen]], Cefny-y-meysydd (1789-1868)
*[[Eben Fardd]] (1802-1863)
*[[Nicander]] (1809-1874)
*[[Eifion Wyn]] (1867-1926)
 
===Llyfryddiaeth===
*[[John Edward Lloyd]] (1911), ''A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest'' (Longmans, Green & Co, 1937)
*William Rowland, ''Gwŷr Eifionydd'' ([[Gwasg Gee]], 1953)
 
==Llyfryddiaeth==
[[John Edward Lloyd]] (1911) ''A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest'' (Longmans, Green & Co)
 
[[Categori:Gwynedd]]