Thomas Gwynn Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cywiriad - ganed ym Metws yn Rhos, nid Abergele
Llinell 1:
[[Delwedd:T.Gwynn_Jones(llai).JPG|200px|bawd|Thomas Gwynn Jones]]
Newyddiadurwr, [[bardd]], ysgolhaig a [[nofel]]ydd oedd '''T. Gwynn Jones''', enw llawn '''Thomas Gwyn Jones''' ([[10 Hydref]], [[1871]] - [[7 Mawrth]] [[1949]]). Roedd T. Gwynn yn llenor amryddawn a wnaeth gyfraniad pwysig iawn i [[llenyddiaeth Gymraeg|lenyddiaeth Gymraeg]], ysgolheictod Cymreig ac astudiaethau [[llên gwerin]] yn hanner cyntaf yr [[20fed ganrif]]. Yr oedd hefyd yn gyfieithydd medrus o'r [[Almaeneg]], [[Groeg]], [[Gwyddeleg]] a [[Saesneg]]. Roedd yn frodor o [[AbergeleBetws yn Rhos|Fetws yn Rhos]] yn yr hen [[Sir Ddinbych]] (sir [[Conwy (sir)|Conwy]] heddiw).
 
==Ei fywyd==
Cafodd T. Gwynn Jones ei addysg gynnar yn [[Dinbych|Ninbych]] ac [[Abergele]]. Daeth yn is-olygydd ''[[Baner ac Amserau Cymru]]'' (''Y Faner'') yn [[1890]]. Ysgrifennodd gofiant ardderchog i'r cyhoeddwr [[Plaid Ryddfrydol (DU)|Rhyddfrydol]] [[Thomas Gee]] sy'n dryll i'w oes yn ogystal â'i waith. Aeth i weithio i'r [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru|Llyfrgell Genedlaethol]] yn [[Aberystwyth]] ar ôl blynyddoedd o newyddiadura, ac wedyn yn ddarlithydd yn yr adran Gymraeg yng [[Prifysgol Cymru, Aberystwyth|Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth]]. Yn [[1919]] daeth yn athro llenyddiaeth Gymraeg yn y coleg hwnnw.
 
Enillodd [[Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol|gadair]] [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1902]] am ei awdl ''[[Ymadawiad Arthur]]''.