Benelux: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Benelux.png|thumb|[[Benelux]]]]
Grŵp o dair wlad yng ngorllewin Ewrop sy'n cynnwys [[Gwlad Belg]], [[yr Iseldiroedd]] a [[Lwcsembwrg]] yw'r '''Benelux'''. Mae'r enw yn gyfuniad dechrau enw pob gwlad ('''BelBe'''gelge - '''Ne'''derlands - '''Lux'''embourg). Fe'i sefydlwyd yn wreiddiol er mwyn sefydlu "Undeb Economaidd Benelux".
 
Sefydlwyd yr '''Undeb Economaidd Benelux''' (Iseldireg ''Benelux Economische Unie'', Ffrangeg ''Union Économique Benelux'') ym [[1944]] er mwyn lleihau rhwystrau yn cyfyngu symudiad rhydd gweithwyr, cyfalaf, nwyddau a gwasanaethau rhwng y tair gwlad. Cryfhawyd y cysylltiadau ar 3 Chwefror [[1958]], pryd llofnodwyd cytundeb yn [[Den Haag]] yn sefydlu undeb economaidd. Roedd sefydlu'r undeb yn gyfraniad pwysig tuag at greu y Gymuned Economaidd Ewropeaidd (wedyn yr [[Undeb Ewropeaidd]]), er i'r UE ddatblygu o'r [[Cymuned Ewropeaidd Glo a Dur|Gymuned Ewropeaidd Glo a Dur]] (ECSC).