Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hen Gymraeg"

Lleihawyd o 9 beit ,  3 blynedd yn ôl
B
→‎top: clean up, replaced: 12fed ganrif → 12g using AWB
B (clean up)
B (→‎top: clean up, replaced: 12fed ganrif → 12g using AWB)
</tt></blockquote>
 
Mae glosau, sef nodiadau Cymraeg ymyl y ddalen ar destunau Lladin, o'r cyfnod hwn wedi goroesi hefyd. Mae rhai o'r [[llawysgrif]]au a ysgrifennwyd o'r 12fed ganrif12g ymlaen naill ai wedi eu copïo o lawysgrifau hŷn neu yn gofnod o draddodiad llafar hŷn, e.e. [[Llyfr Llandaf]] (a gedwir yn [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]]), yr ''[[Annales Cambriae]]'' (cedwir un fersiwn o hwn yn y ''National Archives'' (PRO gynt) yn Llundain a dau fersiwn yn y [[Llyfrgell Brydeinig]]), a gwaith y [[Cynfeirdd]].
 
Mae'r darnau ysgrifenedig hyn yn cynnig tystiolaeth o fath ynglŷn â'r Gymraeg yn y cyfnod hwn. Eto amwys yw'r dystiolaeth i raddau gan na wyddom ai synau'r Gymraeg sydd wedi newid ynteu'r ffordd y cyflëir y synau hyn ar bapur. Rhaid bod yn ofalus wrth dynnu casgliadau o'r dystiolaeth ysgrifenedig brin. Yn y [[llawysgrifau Cymreig]] ni cheir treiglad ar ddechrau gair byth, a phrin yw'r enghreifftiau o [[cyfnewidiad seiniol|gyfnewidiadau seiniol]] yng nghanol neu ar ddiwedd [[gair]], e.e. '''atar''' (adar), '''nimer''' (nifer), '''douceint''' (deugain), '''merc''' (merch), '''trucarauc''' (trugarog). Ceir '''gu''' ynghanol gair, sydd yn w-gytsain erbyn heddiw, e.e. '''petguar''' (pedwar). Fe dybir nad oedd y gyfundrefn [[treiglad|dreigladau]] ar ddechrau geiriau sydd gennym heddiw ddim eto wedi datblygu'n llawn yn y Gymraeg na'r cyfnewidiadau seiniol mewnol, megis '''t''' i '''d''' yn '''atar/adar''', eto wedi eu cwblhau. Ond y mae'n bosib bod geiriau yn cael eu treiglo ar lafar ond mai'r ffurf gysefin yn unig a ysgrifennid, neu bod y ffordd o yngan y cytseiniaid wedi newid ers hynny. Digwydd '''oi''' neu '''ui''' lle yr yngenir wy heddiw, e.e. '''oith''' (wyth), '''troi''' (trwy), '''bloidin''' (blwyddyn), '''notuid''' (nodwydd). Ceir '''ou''' sydd heddiw'n '''eu''' neu '''au''', e.e. '''hithou''' (hithau), '''nouodou''' (neuaddau).
417,732

golygiad