Llan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 3:
Mae gwreiddiau'r [[gair]] yn hen iawn. Yn ôl [[Geiriadur Prifysgol Cymru]] mae'n deillio o'r gair [[Celteg]] tybiedig *''landa'' o'r gwreiddyn *''lendh-'' 'tir agored, [[rhos]]'. Cytras iddo yw'r gair ''llannerch'' a'r gair [[Saesneg]] ''land''. Yn yr [[ieithoedd Celtaidd]] eraill ceir geiriau cytras, fel ''lann'' ('eglwys; rhos, tir agored') yn [[Llydaweg]] a ''lann'' ('tir; adeilad, eglwys') yn y [[Wyddeleg]], er enghraifft. O'r gair [[Galeg]] cytras *''landa'' ceir y gair [[Ffrangeg]] ''lande'' ('rhos, tir garw').<ref>Geiriadur Prifysgol Cymru, cyf. 2, tud. 2094.</ref>
Yr ystyr gynharaf yn y [[Gymraeg]], mae'n debyg, oedd 'darn o dir caeedig ar gyfer tyfu rhyw gynnyrch neu gadw eiddo', ac fe'i ceir yn yr ystyr honno mewn geiriau cyfansawdd fel ''coedlan'' (tir caeedig i dyfu [[coed]]), ''[[corlan]]'' (i gadw anifeiliaid), ''[[gwinllan]]'' (i [[gwinwydden|winwydd]]), ''[[perllan]]'' (i [[ffrwyth]]au), ''ydlan'' (i dyfu [[ŷd]]), a.y.y.b.<ref>Geiriadur Prifysgol Cymru, cyf. 2, tud. 2094.</ref>
Gyda dyfodiad [[Cristnogaeth]] ac amlhau [[eglwys]]i, datblygodd yr ystyr 'darn o dir cysegredig', yn enwedig y tir oddi amgylch eglwys, yn cynnwys y fynwent (ceir enghreifftiau o'r gair ''llan'' yn golygu '[[mynwent]]' hefyd). Y cam nesaf oedd i'r gair ''llan'' ddod i olygu'r eglwys ei hun, a dyna a geir yn y rhan fwyaf o enwau lleoedd ar bentrefi a [[plwyf|phlwyfi]] yng Nghymru
Gall ''llan'' gyfeirio at yr Eglwys ei hun fel sefydliad yn ogystal, yn arbennig mewn cyferbyniaeth â'r byd seciwlar neu'r [[gwladwriaeth|wladwriaeth]], e.e. yn y dywediad 'mewn llan a [[llys]]' (h.y. ymhobman). Fel [[trosiad]] mae'n gallu golygu '[[nef]]oedd' hefyd..<ref>Geiriadur Prifysgol Cymru, cyf. 2, tud. 2095.</ref>
|