Canu Darogan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up, replaced: y 15fed ganrif → y 15g, y 14eg ganrif → y 14g, y 12fed ganrif → y 12g using AWB
B clean up, replaced: 15fed ganrif → 15g (6), 14eg ganrif → 14g, 13eg ganrif → 13g (2), 12fed ganrif → 12g (3), 10fed ganrif → 10g, 6ed ganrif → 6g (2), 5ed ganrif → 5g using AWB
Llinell 6:
Mae gwreiddiau'r farddoniaeth arbennig hon yn hen iawn. Gellir olrhain y traddodiad i ddyddiau'r Celtiaid. Cyfeiria'r awdur clasurol [[Diodorus Siculus]] at y ''[[vates]]'', dosbarth o feirdd a doethion Celtaidd a fedrai ragweld y dyfodol. Cyfeiria [[Gerallt Gymro]], ar ddiwedd y 12g, at yr [[Awenydd]]ion a ragwelai'r dyfodol mewn perlewyg ac a lefarai ddaroganau wedyn.
 
Math o broffwyd neu ddaroganwr oedd y mynach [[Gildas]] (5ed ganrif5g), ond proffwyd gwae yn lle gobaith, yn null proffwydi'r [[Hen Destament]], sy'n llefaru yn ei lyfr enwog ''[[De Excidio Britanniae]]'' (''Coll Prydain''), ac nid yw ei waith yn rhan o'r traddodiad Cymreig fel y cyfryw, er iddo ddylanwadu arno. Sonia [[Nennius]] am [[Y Ddraig Goch]] a'r Ddraig Wen yn ymladd dan [[Dinas Emrys]], caer [[Gwrtheyrn]] yn [[Eryri]], ac mae'n cyflwyno'r dewin [[Myrddin]] hefyd; parhaodd hanes y dreigiau yn elfen ganolog yn y Canu Darogan hyd y 15g. Ceisio rhoi hyder i'r Cymry oedd Nennius, a dyna hefyd a wnai'r brudwyr hwythau.
 
===Oesoedd Canol===
Un o'r cerddi darogan cynharaf a wyddys yw '[[Armes Prydain]]' (10fed ganrif10g?), gan fardd anhysbys sy'n darogan dyfod cynghreiriad Celtaidd-Llychlynaidd i frwydro ochr yn ochr â'r Cymry yn erbyn y Saeson, dan faner [[Dewi Sant]].
 
Yn fuan yn hanes y traddodiad, daeth y [[Taliesin Ben Beirdd|Taliesin chwedlonol]] a [[Myrddin|Myrddin Fardd]] yn ffigurau canolog. Tadogwyd nifer fawr o gerddi darogan arnynt yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol, e.e. yn ''[[Llyfr Taliesin]]'' ac yn yr 'Oianau' a'r 'Afallenau' yn ''[[Llyfr Du Caerfyrddin]]'' a briodolir i Fyrddin. Ceir hefyd y gerdd '[[Ymddiddan Myrddin a Thaliesin]]'. Cyfeiria [[Sieffre o Fynwy]] at broffwydoliaethau Myrddin yn yr ''[[Historia Regum Britanniae]]'' a cheir y ''[[Vita Merlini]]'' ganddo hefyd.
 
Ond er i Fyrddin a Thaliesin, fel arwr ''[[Hanes Taliesin]]'', ddod i ddominyddu'r Canu Darogan, tadogwyd cerddi darogan ar feirdd eraill hefyd, e.e. y [[Bardd Cwsg]] (a ysbrodolodd y llyfr diweddarach ''[[Gweledigaethau'r Bardd Cwsc]]'' gan [[Ellis Wynne]]), y Bardd Bach a'r [[Bergam]]. Ceir hefyd [[Adda Fras]] (13eg ganrif13g?) a gysylltir â Gwynedd.
 
Daw'r traddodiad i'w benllanw fel petai yn yr Oesoedd Canol Diweddar. Dyma'r cyfnod lle ceir y pwyslais pennaf ar y [[Mab Darogan]]. Cyfeirir ato weithiau fel ail [[Arthur]], neu fel [[Cynan]] a [[Cadwaladr|Chadwaladr]] yn dychwelyd i arwain y Cymry. Ond yr enw amlycaf yw 'Owain', a gysylltir ag [[Owain Lawgoch]] yn ail hanner y 14g ac [[Owain Glyndŵr]] ar ddechrau'r ganrif olynol. Yn olaf ceir y canu darogan a gysylltir â [[Rhyfeloedd y Rhosynnau]] ag ymgyrch [[Harri Tudur]]. Mae nifer o'r cerddi o'r cyfnod hwn, o tua 1425-1485, yn [[cywydd|gywyddau]] coeth gan feirdd proffesiynol fel [[Dafydd Llwyd o Fathafarn|Dafydd Llwyd]] o [[Mathafarn|Fathafarn]], ond ceir yn ogystal doreth o ganu llai caboledig, fformiwlëig ar fesurau'r [[canu rhydd]].
Llinell 23:
Perthyn rhai brudwyr i draddodiad yn unig, yn enwau beirdd dychmygol, ffigyrau chwedlonol a rhai o'r [[Cynfeirdd]], y tadogwyd daroganau arnynt gan y beirdd canoloesol dienw a'u cyfansoddodd.
 
*[[Aneirin]] (bardd hanesyddol o'r 6ed ganrif6g y tadogir rhai brudiau arno)
*[[Bardd Cwsg|Y Bardd Cwsg]] (=[[Rhys Fardd]]?)
*[[Y Bergam]] (yn fardd hanesyddol, efallai)
Llinell 31:
*[[Myrddin|Myrddin Fardd]]
*Sibli Ddoeth
*[[Taliesin]] (bardd hanesyddol o'r 6ed ganrif6g y tadogir nifer o frudiau arno, yn aml wrth yr enw [[Taliesin Ben Beirdd]])
 
===Rhai brudwyr hanesyddol===
*[[Adda Fras]] (13eg ganrif13g?)
*[[Crach Ffinant]] (15fed ganrif15g; daroganwr [[Owain Glyndŵr]])
*[[Cuhelyn Fardd]] (12fed ganrif12g?)
*[[Dafydd Gorlech]] (15fed ganrif15g)
*[[Dafydd Llwyd ap Llywelyn ap Gruffudd]] ([[Dafydd Llwyd o Fathafarn]]) (15fed ganrif15g)
*[[Gronw Ddu]] (14eg ganrif14g)
*[[Gruffudd ap Dafydd Fychan]]
*[[Lewys Glyn Cothi]] (15fed ganrif15g)
*[[Maredudd ap Rhys]] (15fed ganrif15g)
*[[Meilyr Brydydd]] (12fed ganrif12g; tadogir cerdd brud ar "Feilyr Awenydd" ond mae'r awduraeth yn amheus)
*[[Robin Ddu]] (Robin Ddu ap Siencyn Bledrydd)
*[[Rhys Fardd]] (fl. 1460-80)
*[[Rhys Nanmor]] (15fed ganrif15g)
*[[Tangwystl]] (12fed ganrif12g, ond efallai yn ddaroganes yn hytrach na bardd)
 
==Llyfryddiaeth==