Cywydd deuair hirion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
newidiadau man using AWB
B →‎top: clean up using AWB
Llinell 1:
{{24 mesur}}
Ffurfir y '''cywydd deuair hirion''' o gwpledi sy'n odli, saith sillaf i bob llinell, a phob llinell mewn [[cynghanedd]]. Dyma'r ffurf fwyaf cyffredin o lawer ar y [[cywydd]]. Rhaid i un brifodl fod yn acennog a'r llall yn ddiacen, er nad oes ots ym mha drefn y gwneir hynny.
 
Dyma enghraifft gan [[Waldo Williams]]:
Llinell 11:
Un o'r mesurau pwysicaf, os nad y pwysicaf oll, yw'r cywydd deuair hirion.<ref>''Anghenion y Gynghanedd'', Alan Llwyd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1973.</ref>
 
O'r [[traethodl]] y datblygodd y cywydd, mesur a fu'n boblogaidd gan y beirdd israddol a elwir yn [[Glêr]]. Ystyrir [[Dafydd ap Gwilym]], bardd a ganai yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, yn ffigwr canolog a phwysig yn natblygiad y cywydd ac yn rhannol gyfrifol am ddyrchafu ei statws.<ref>''Gwaith Dafydd ap Gwilym'', Thomas Parry, Gwasg Prifysgol Cymru, Ail argraffiad, 1963.</ref>
 
Os oes mwy neu lai o sillafau mewn llinell, dywedir fod [[tor mesur]] ynddo a chaiff ei gyfrif yn fai. Ni chaniateir [[cynghanedd lusg]] yn ail linell y cwpled, a gelwir y bai hwn yn "llysiant llusg". Fel arfer ceir amrywiaeth yn y brifodl, ond mae llawer o feirdd yn dewis canu cywyddau unodl.