Cynfarch fab Meirchion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 6 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q2663897 (translate me)
B →‎top: clean up, replaced: 6ed ganrif → 6g, 5ed ganrif → 5g using AWB
Llinell 1:
Brenin o'r [[Hen Ogledd]] oedd '''Cynfarch fab Meirchion''' (bl. hanner cyntaf y 6ed ganrif6g) neu '''Cynfarch Gul'''. Roedd yn ddisgynydd i'r brenin [[Coel Hen]] ac yn dad i [[Urien Rheged]], brenin [[Rheged]]. Mae'r ychydig a wyddys amdano yn seiliedig ar dystiolaeth yr achau Cymreig yn bennaf. Yn y traddodiad Cymreig fe'i cymysgir yn aml â'r arwr chwedlonol [[March ap Meirchion]] a rhai o seintiau cynnar Cymru (gweler [[Cynfarch]]).
 
Yn ôl [[Bonedd Gwŷr y Gogledd]], roedd Cynfarch yn fab i'r brenin [[Meirchion]] (Meirchiawn) fab [[Gorwst Ledlwm]] fab [[Cenau fab Coel|Cenau]] fab [[Coel Hen|Coel]]. Roedd yn frawd i [[Elidir Lydanwyn]] ac felly'n ewythr i [[Llywarch Hen]]. Trwy amyfusedd, yn ôl pob tebyg, priodolwyd mab o'r enw Llew fab Cynfarch iddo pan addaswyd ''[[Brut y Brenhinedd]]'' i'r Gymraeg yn yr Oesoedd Canol.
 
Nid enillodd Cynfarch fab Meirchion le yn nhraddodiadau cynnar Cymru ac mae ei enw yn digwydd gan amlaf fel tad Urien Rheged yn unig. Mae'n debyg ei fod yn frenin Rheged ar ddiwedd y 5ed ganrif5g a dechrau'r ganrif olynol ac felly wedi cymryd rhan yn y brwydro cynnar yn erbyn yr [[Eingl-Sacsoniaid]] ([[Deifr]], [[Brynaich]]) yn yr Hen Ogledd. Ymddengys fod Urien wedi etifeddu teyrnas Rheged ar ei farwolaeth.
 
Cyfeirir ato weithiau fel Cynfarch Gul, ar ôl ei dad Meirchion Gul. Yn ôl ''De situ Brecheiniauc'', sy'n ymwneud â hanes [[teyrnas Brycheiniog]], priododd Cynfarch (''Kenuarch Gul'') Nifain (''Nyvein''), un o ferched niferus [[Brychan Brycheiniog]], ond credir nad oes sail i'r traddodiad diweddarach hwnnw.