Pasgen fab Urien: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Ffynhonnell: clean up
B →‎top: clean up, replaced: 9fed ganrif → 9g, 6ed ganrif → 6g (2) using AWB
 
Llinell 1:
Yn ôl traddodiad, un o feibion [[Urien Rheged]] oedd '''Pasgen fab Urien''' (fl. ail hanner y 6ed ganrif6g). Fel mab Urien, brenin [[Rheged]] yn yr [[Hen Ogledd]], roedd Pasgen yn un o ddisgynyddion y brenin [[Coel Hen]] ac yn perthyn i linach y ''Coelwys''.
 
Ceir sawl enghraifft o'r enw personol 'Pasgen' ([[Cymraeg Canol]] ''Pascen''; [[Hen Gymraeg]] ''Pascent'' < [[Lladin]] ''Pascentius''). Ceir enghraifft o'r enw Lladin ar garreg yn eglwys [[Tywyn]] sy'n dyddio o'r 5ed neu'r 6ed ganrif6g a cheir enw Pasgen fab Gwrtheyrn ar biler yng [[Glyn Egwestl|Nglyn Egwestl]] (9fed ganrif9g).
 
Ni chofnodir enw Pasgen yn y testun Cymraeg Canol [[Bonedd Gwŷr y Gogledd]], ond ceir llinach ei dad Urien Rheged yno. Dangosir yr achau hyn ei fod yn perthyn i [[Llywarch Hen]]. Yn y cylch o gerddi a adnabyddir fel [[Canu Llywarch Hen]], cyfeirir at bennaeth o'r enw Pasgen mewn cyd-destun sy'n awgrymu mai un o feibion Urien Rheged ydyw: gyda'i frodyr [[Owain ab Urien|Owain]] ac Elffin brwydrodd yn y Gogledd yn erbyn [[Dunod fab Pabo|Dunod]] fab [[Pabo Post Prydain]] a [[Gwallog]] fab Llëenog.