Pedair Cainc y Mabinogi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 28:
==Daearyddiaeth y Pedair Cainc==
[[Delwedd:Yr Wyddfa o Harlech D.Cox W.Radclyffe.JPG|250px|bawd|Hen engrafiad o [[Castell Harlech|Gastell Harlech]] gyda'r [[Yr Wyddfa|Wyddfa]] yn y cefndir]]
Fel y nodir uchod, mae Ifor Williams yn tynnu ein sylw at y ffaith fod awdur PKM yn asio pedair chwedl o wahanol rannau o Gymru ynghlwm.
 
Cyfyngir digwyddiadau y Gainc Gyntaf, ''Pwyll Pendefig Dyfed'', yn gyfangwbl i Ddyfed, ac yn neilltuol i ardal y [[Preseli]]. Ac eithrio "gwibdaith" i [[Gwent|Went]] sy'n ymylol i brif ffrwd y chwedl, mae pob dim yn digwydd o fewn cylch o tua pymtheg milltir o [[Arberth]], prif lys Pwyll (gogledd [[Sir Benfro]] heddiw. Mae daearyddiaeth y Drydedd Gainc, ''Manawydan fab Llŷr'', yn fwy cyfyng eto; Dyfed hud a lledrith o gwmpas Arberth a "gwibdaith" i [[Henffordd]] (yn [[Lloegr]] heddiw ond yn rhan o deyrnas [[Powys]] yn yr Oesoedd Canol cynnar).