Llyfr Gwyn Hergest: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 2 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q1866975 (translate me)
B →‎top: clean up, replaced: 15fed ganrif → 15g using AWB
Llinell 1:
[[Llawysgrif Gymraeg]] [[Cymru'r Oesoedd Canol|ganoloesol]] oedd '''Llyfr Gwyn Hergest'''. Collwyd y llawysgrif mewn tân yn llyfrgell plasdy Mostyn ar ddechrau'r 19eg ganrif. Credir i ran o'r cynnwys gael ei hysgrifennu gan y bardd [[Lewys Glyn Cothi]] yn ail hanner y 15fed ganrif15g (cyn 1490).<ref name="Johnston">[[Dafydd Johnston]] (gol.), ''Gwaith Lewys Glyn Cothi'' (Caerdydd, 1995), tud. xxx.</ref> Fe'i enwyd ar ôl teulu [[Hergest]] ([[Swydd Henffordd]]), noddwyr amlwg y cysylltir eu henw â [[Llyfr Coch Hergest]], un o'n prif ffynnonellau am destunau'r [[Mabinogion]].
 
Roedd Llyfr Gwyn Hergest yn llawysgrif bwysig. Gwyddom hynny am fod rhannau o'r cynnwys ar gael o hyd diolch i waith copïwyr cyn ei llosgi. Credai'r hynafiaethydd [[Robert Vaughan]] (tua 1592–1667) o'r [[Hengwrt]] (yn [[Llanelltud]] ger [[Dolgellau]]), mai Lewys Glyn Cothi, sy'n awdur sawl llawysgrif arall, oedd awdur y cyfan ond credir erbyn hyn mai dim ond yr adran o'i gerddi ei hun oedd yn llaw'r bardd adnabyddus hwnnw. Mae un [[awdl]] a thri [[cywydd|chywydd]] o waith Lewys Glyn Cothi a fu yn y llawysgrif ar glawr heddiw.<ref name="Johnston"/>