Syr John Wynn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 16eg ganrif16g, 15fed ganrif15g, [[File: → [[Delwedd: using AWB
B →‎Gwaith hynafiaethol: clean up, replaced: 8fed ganrif → 8g using AWB
Llinell 12:
 
==Gwaith hynafiaethol==
Ei gyfraniad mawr i astudiaethau ar [[hanes Cymru]] yw ei gyfrol enwog ''[[History of the Gwydir Family]]'', a fu'n boblogaidd iawn yng ngogledd Cymru. Prif amcan Syr John wrth sgwennu'r llyfr oedd cadarnhau ei hawl i fod yn ddisgynydd uniongyrchol i dywysogion Gwynedd ac felly o linach brenhinol. Ond ymddengys iddo wyrio rhai o'r [[achau]] yn y llyfr i brofi hynny ac nid oedd pawb yn barod i dderbyn ei honiadau. Cyflwynodd [[Tomos Prys]] o [[Plas Iolyn|Blas Iolyn]] achos llys yn ei erbyn a bu rhaid i Syr John amddiffyn ei hun yn y llys. Ond enillodd yr achos a chafodd ei gydnabod fel prif etifedd gwrywaidd [[Tair Talaith Cymru|Talaith Gwynedd]] ac felly, yn ôl [[Cyfraith Hywel]], yn Dywysog ''de jure'' Gwynedd. Fodd bynnag, roedd disgynyddion [[Dafydd Goch]], mab llwyn a pherth [[Dafydd ap Gruffudd]], yn hawlio'r fraint honno yn ogystal. Arosodd llyfr Syr John Wynn mewn llawysgrifau (ceir sawl copi) hyd y 18fed ganrif18g. Fe'i cyhoeddwyd am y tro cyntaf gan Dames Barrington yn 1770, a chafwyd sawl argraffiad arall ar ôl hynny. Yn ogystal â bod yn ddarllen difyr, mae'r llyfr yn werthfawr am y portread a geir ynddo o gyflwr cymdeithas yng ngogledd Cymru yn y [[15g]] a dechrau'r [[16g]].
 
Ysgrifennodd Syr John gyfrol fechan o atgofion (y ''Memoirs'') sy'n ffynhonnell bwysig am hanes a chymdeithas gogledd Cymru yn ail hanner yr 16eg a dechrau'r 17eg ganrif. Yn ogystal, ysgrifennodd draethawd ar hynafiaethau ardal [[Penmaenmawr]], sy'n cynnwys y disgrifiad cynharaf o fryngaer [[Braich-y-Dinas]], a gyhoeddwyd yn 1859 dan y teitl ''An Ancient Survey of Penmaenmawr''.