System nerfol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B →‎top: clean up using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Nervous system diagram-en.svg|bawd|upright=1.3|System Nerfol Dynol. Dengys y [[system nerfol ganolog]] mewn coch, a'r [[system nerfol ymylol]] mewn glas.]]
 
Rhwydwaith o gelloedd sydd wedi arbenigo mewn trosglwyddo a phrosesu gwybodaeth o fewn anifail a'i amgylchedd yw'r '''system nerfol'''. Mae'n prosesu'r wybodaeth gan achosi ymatebion mewn rhannau eraill o'r corff. Fe'i gwnaed allan o [[niwron]]au a chelloedd eraill arbenigol, sef [[glia]], sy'n cynorthwyo'r niwronau i weithio. Caiff y system nerfol ei rannu yn fras yn ddau gategori: y [[system nerfol ymylol]] a'r [[system nerfol ganolog]]. Mae niwronau yn cynhyrchu ac yn dargludo [[ysgogiad]]au rhwng y ddwy system. Y niwronau synhwyro a'r niwronau eraill sy'n eu cysylltu gyda llinynnau'r nerf, [[madruddyn y cefn]] (asgwrn cefn) a'r [[ymennydd]] yw'r system nerfol canolig. Llinynnau'r nerf, madruddyn y cefn a'r ymennydd yw'r system nerfol ganolog.
 
Mae niwronau synhwyro, mewn ymateb i ysgogiadau, yn cynhyrchu a lledaenu negeseuon i'r system nerfol ganolog, sydd yn prosesu a dargludo'r signalau yn ôl i'r [[cyhyr]]au a'r [[chwarren|chwarennau]]. Mae'r niwronau yn systemau nerfol anifeiliad yn cysylltu mewn ffurf gymhleth, ac yn defnyddio negeseuon electrogemegol a thrawsyryddion-niwrol i ddargludo'r ysgogiadau o'r naill niwron i'r llall. Mae'r niwronau'n creu cylchedau niwrol, sy'n rheoli sut mae organeb yn deall beth sy'n mynd ymlaen yn ei gorff ac o'i gwmpas, ac felly'n rheoli ei ymddygiad. Mae'r systemau nerfol i'w chanfod mewn nifer o anifeiliaid amlgellog, ond mae'n amrywio'n fawr rhwng pob rhywogaeth.<ref>{{dyf llyfr| teitl=Columbia Encyclopedia: Nervous System| cyhoeddwr=Columbia University Press}}</ref>