Mudiadau cymdeithasol LHDT: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 20fed ganrif20g, 19eg ganrif19g using AWB
B clean up, replaced: 8fed ganrif → 8g using AWB
Llinell 10:
Fel gyda mudiadau cymdeithasol eraill, ceir gwrthdaro o fewn a rhwng mudiadau LHDT, yn enwedig ynglyn â strategaethau ar gyfer newid. Ceir trafodaethau ynglyn ag i ba raddau y mae lesbiaid, dynion hoyw, pobl ddeurywiol, trawsrywiol a rhyngrywiol yn wynebu'r un problemau ac am yr angen i gyd-weithio. Yn aml yn ystod y 1970au, 80au a'r 90au, ceisiodd arweinyddion y mudiad lesbiaid a hoywon guddio lesbiaid gwrywaidd, dynion hoyw benywaidd, pobl trawsrywiol a deurywiol rhag y cyhoedd, gan greu rhaniadau mewnol o fewn cymunedau LHDT.
 
Yn aml, mae mudiadau LHDT wedi mabwysiadu math o wleidyddiaeth hunaniaeth sy'n ystyried pobl hoyw, deurywiol a/neu bobl trawsrywiol fel dosbarth penodol o bobl. Mae'r rheiny sy'n defnyddio'r math yma o syniad yn anelu at nodau gwleidyddol rhyddfrydol fel rhyddid a chyfle cyfartal, gan anelu at wleidyddiaeth y brif ffrwd fel y wneir gan grwpiau eraill yn y gymdeithas. Wrth ddadlau fod [[cyfeiriadedd rhywiol]] a [[hunaniaeth rywiol]] yn rhan annatod o unigolyn ac na ellir ei newid, gwrthwynebir unrhyw ymgais i newid dynion hoyw, lesbiaid a phobl deurywiol yn heterorywiol ("[[therapi trawsnewid]]") gan y gymuned LHDT. Yn aml, seilir y therapi hyn ar gredoau crefyddol sy'n ystyried fod gweithgarwch dynion hoyw, lesbiaid a phobl deurywiol yn anfoesol.
 
Fodd bynnag, mae eraill o fewn mudiadau LHDT wedi beirniadu gwleidyddiaeth hunaniaeth gan ddweud ei fod yn gyfyng a chyda gwendidau amlwg. Dadleua elfennau o'r mudiad "queer" fod y categorïau hoyw a lesbiad yn rhy gyfyng, a cheisiasant waredu'r categorïau hyn, sydd yn "atgyfnerthu yn hytrach na herio system ddiwylliannol a fydd bob amser yn ystyried pobl na sydd yn heterorywiol yn israddol."<ref>Bernstein (2002)</ref>
Llinell 27:
Tair blynedd yn ddiweddarach yn y [[Swistir]], cyhoeddodd [[Heinrich Hoessli]] y gyfrol gyntaf o ''Eros: Die Männerliebe der Griechen'' ("Eros: Cariad-gwrywaidd y Groegiaid"), amddiffyniad arall o gariad cyfunrywiol.
 
Yn groes i'r gred gyffredin, ni wnaed cyfunrywioldeb yn anghyfreithlon yng Ngwlad Pwyl a oedd yn draddodadiol Gatholig a cheidwadol. Yn ystod y 18fed ganrif18g, gwelwyd agweddau ryddfrydol, ymlaciedig at rywioldeb, gyda ffigurau cyhoeddus ynghlwm a gweithgarwch cyfunrywiol neu drawswisgo. Tynnwyd sylw'r cyhoedd at ddigwyddiadau fel hyn, ond ni ddaethpwyd ag achos troseddol yn erbyn unrhyw un. Dim ond pan rannwyd tiriogaethau Gwlad Pwyl ac y daethant o dan reolaeth yr [[Ymerodraeth Rwsaidd]], yr [[Ymerodraeth Awstri-Hwngaraidd]] a [[Teyrnas Prwsia|Theyrnas Prwsia]] y cyflwynwyd deddfau a wnaeth gweithgarwch cyfunrywiol yn anghyfreithlon. Serch hynny, parhaodd nifer o ffigurau blaenllaw i fod mewn perthynas cyfunrywiol, megis [[Narcyza Żmichowska]] (1819-1876), ysgrifenwraig a sylfaenydd y mudiad ffeministaidd Pwylaidd, a ddefnyddiodd ei phrofiadau ei hun yn ei hysgrifennu.
 
==Cyfeiriadau==