Seciwlariaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
man gywiriadau using AWB
B →‎top: clean up using AWB
Llinell 1:
Cyfundrefn neu athrawiaeth [[athroniaeth|athronyddol]] a [[moeseg]]ol sy'n credu mewn trefnu bywyd heb gyfeiriad at gred mewn [[Duw]] a [[crefydd|chrefydd]] yn gyffredinol yw '''seciwlariaeth'''. Credir i'r [[gair]] ei hun gael ei fathu gan [[G. J. Holyoake]] (1817-1906) ym [[1851]]. Mae'n perthyn yn agos i [[dyneiddiaeth|ddyneiddiaeth]].
 
Mae seciwlariaeth felly yn credu y dylid gwahanu'r [[seciwlar]] a'r [[crefydd]]ol yn llwyr, ac yn gwrthod lle i [[eglwys]]i a chyfundrefnau crefyddol eraill mewn bywyd cyhoeddus ac yn enwedig yn y [[gwladwriaeth|wladwriaeth]] a'r [[llywodraeth]].
 
Un adwaith i dwf dylanwad seciwlariaeth ym mywyd [[y Gorllewin]] oedd y ''[[Syllabus Errorum]]'' a gyhoeddwyd gan y [[Pab Pïws IX]] ym [[1864]].