Oesoedd Canol Cynnar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 36 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q202763 (translate me)
B →‎top: clean up, replaced: 11eg ganrif → 11g using AWB
 
Llinell 1:
Term yw '''Oesoedd Canol Cynnar''' a ddefnyddir gan haneswyr i ddisgrifio rhan gyntaf yr [[Oesoedd Canol]], o'r cyfnod ôl-[[Ymerodraeth Rufeinig|Rufeinig]] hyd at tua dechrau'r 11eg ganrif11g. Mae'r diffiniad yn amrywio rhywfaint yn ôl y wlad neu ranbarth ac mae'r term, fel y term 'Oesoedd Canol' ei hun, yn cael ei ddefnyddio gan amlaf i gyfeirio at gyfnod yn [[hanes Ewrop]] a rhanbarthau cyfagos. Mae'r term yn cynnwys y cyfnod a elwir weithiau "yr Oesoedd Tywyll".
 
Yn hanes [[gwledydd Prydain]], mae haneswyr yn defnyddio'r term 'Oesoedd Canol Cynnar' i gyfeirio at y cyfnod rhwng diwedd rheolaeth Rhufain ym Mhrydain a dyfodiad y [[Normaniaid]]. Gelwir y cyfnod rhwng ymadawiaid y llengoedd a sefydlu [[Cymru]], [[yr Alban]] a [[Lloegr]] fel tiriogaethau diffiniedig, fwy neu lai, y [[cyfnod Ôl-Rufeinig]], a welodd yr [[Eingl-Sacsoniaid]] yn ymestyn eu grym ar draul y [[Brythoniaid]]: dyma gyfnod yr [[Hen Ogledd]] a sefydlu [[Teyrnasoedd Cymru|teyrnasoedd cynnar Cymru]].