Barzaz Breiz: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cat
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
Cyfrol Villemarqué oedd yr ymgais cyntaf i gasglu a chyhoeddi cerddoriaeth Lydewig draddodiadol, ar wahân i [[emyn]]au. Cyn hynny, roedd y llenyddiaeth lafar hon ar gael mewn addasiadau [[Ffrangeg Canol]] yn unig, yn dyddio o'r 13eg ganrif ymlaen, ond fel yn achos y chwedlau am [[Arthur]], cafodd y chwedlau eu newid yn sylweddol yn nwylo llenorion anghyfiaith gan adlewyrchu eu diwylliant hwy yn hytrach na diwylliant Llydaw.
 
Cafodd y ''Barzaz Breiz'' gylchrediad eang a bu'n gyfrol ddylanwadol iawn ymhlith Celtigwyr [[Rhamantiaeth|Rhamantaidd]]. Roedd yr hynafiaethydd [[Carnhuanawc]], cyfaill Villemarqué yng Nghymru, yn edmygu'r gwaith yn fawr. Beth bynnag am ei ffaeleddau - beiau safonau ymchwil yr oes yn bennaf - daeth y ''Barzaz Breiz'' â diwylliant gwerin Llydaw i sylw gweddill Ewrop am y tro cyntaf. Un o'r caneuon mwyaf hynafol yn y casgliad yw honno sy'n adrodd chwedl [[Kêr-Ys]] ("[[Cantre'r Gwaelod]]" y Llydawyr).
 
[[Categori:Llenyddiaeth Lydaweg]]