Henry Kissinger: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Breckenheimer (sgwrs | cyfraniadau)
+info bocs
B →‎Bywyd a gyrfa gynnar: clean up, replaced: yn y 18fed ganrif → yn y 18g using AWB
Llinell 30:
Ganwyd Henry Alfred Kissinger yn [[Fürth]], yr Almaen, ar 27 Mai 1923. Daeth ef a'i deulu i [[Dinas Efrog Newydd|Ddinas Efrog Newydd]] gan ffoi o'r [[Natsïaid]] ym 1938 a chafodd ei dderbyn yn ddinesydd Americanaidd ar 19 Mehefin 1943. O 1943 hyd 1946 gwasanaethodd yng [[Corfflu Gwrth-ysbïwriaeth Byddin yr Unol Daleithiau|Nghorfflu Gwrth-ysbïwriaeth Byddin yr Unol Daleithiau]], gan weithio fel cyfieithydd pan goresgynodd y Cynghreiriaid yr Almaen, ac o 1946 i 1949 yr oedd yn gapten yn yr Adfyddin Gudd-wybodaeth Filwrol. Enillodd gradd Baglor Celfyddydau o [[Coleg Harvard|Goleg Harvard]] ym 1950 a gradd Meistr Celfyddydau ym 1952 a Doethur Athroniaeth ym 1954 o [[Prifysgol Harvard|Brifysgol Harvard]], gan ysgrifennu [[traethawd ymchwil]] ei ddoethuriaeth ar [[Metternich]].
 
O 1954 hyd 1971 roedd yn aelod o Gyfadran Prifysgol Harvard, yn Adran y Llywodraeth ac yn y Canolfan dros Faterion Rhyngwladol. Fel academydd, roedd yn arbenigwr ar ddiplomyddiaeth Ewropeaidd yn y 18fed ganrif18g. Gwasanaethodd fel Cyfarwyddwr Astudiaethau, Arfau Niwclear a Pholisi Tramor, ar gyfer y [[Council on Foreign Relations]] o 1955 hyd 1956. Yn ystod arlywyddiaethau [[John F. Kennedy|Kennedy]] a [[Lyndon B. Johnson|Johnson]] cefnogodd Kissinger y strategaeth "[[ymateb hyblyg]]" yn frwd tra yr oedd yn aelod o felinau trafod megis y [[RAND Corporation]].
 
== Gyrfa lywodraethol ==