Castell Tafolwern: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
B →‎top: clean up, replaced: 12fed ganrif → 12g using AWB
Llinell 3:
Yn yr [[Cymru'r Oesoedd Canol|Oesoedd Canol]], gorweddai Tafolwern yng [[cwmwd|nghwmwd]] [[Cyfeiliog]] yn ne-orllewin [[Teyrnas Powys]]. Yma, mae'n debyg, yr oedd llys y cwmwd. Codwyd y castell naill ai gan [[Owain Gwynedd]], brenin [[teyrnas Gwynedd]], neu gan [[Owain Cyfeiliog]], arglwydd Cyfeiliog, tua [[1160]]. Mae'n bosibl fod Owain Gwynedd wedi codi'r castell ar ôl ymgiprys am reolaeth yng Nghyfeiliog rhyngddo a [[Hywel ap Ieuaf]], arglwydd [[Arwystli]]. Ond ni ellir diystyrru'r posiblrwydd mai Owain Cyfeiliog a'i gododd rhywbryd ar ôl ddod yn arglwydd Cyfeiliog yn [[1149]]. Yn sicr roedd ym meddiant llawn Owain Cyfeiliog erbyn [[1165]], ond collodd ei afael arno yn nes ymlaen a daeth i feddiant yr [[Arglwydd Rhys]] o [[Teyrnas Deheubarth|Ddeheubarth]].
 
Parhaodd y castell i gael ei ddefnyddio gan dywysogion [[Powys Wenwynwyn]]. Ceir cofnod o ddwy siarter a roddwyd gan [[Gwenwynwyn ab Owain]] i abatai ym Mhowys o Dafolwern ar ddiwedd y 12fed ganrif12g. Ymosododd [[Dafydd ap Llywelyn]], mab [[Llywelyn Fawr]], ar y castell yn [[1244]]. Ar ôl hynny mae'n diflannu o'r cofnodion.
 
==Cyfeiriadau==