Nyx: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Ffynonellau: Man olygu using AWB
B →‎top: clean up using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:William-Adolphe Bouguereau (1825-1905) - La Nuit (1883).jpg|200px|bawd|''Y Noz'', gan [[William-Adolphe Bouguereau]] - ([[1883]])]]
 
[[Duwies]] y [[Nos]] ym [[mytholeg Roeg]], merch [[Chaos (duw)|Chaos]] (Anhrefn) yw '''Nyx''' (Groeg ''Νύξ'', Lladin ''Nox''). Mae'n debyg ei bod yn hŷn o lawer na'r rhan fwyaf o'r duwiau yn y [[pantheon]] Groeg clasurol.
 
Priododd ei brawd [[Erebus]] a ffrwyth yr uniad hwnnw oedd [[Dydd]] a [[Goleuni]]. Hi hefyd oedd mam y [[Parcae]], yr [[Hesperides]], [[Breuddwyd]]ion, Anghydfod, Marwolaeth, [[Momus]] a duwiau a duwiesau eraill. Mae rhai o'r [[Bardd|beirdd]] clasurol yn ei galw "Mam Popeth", sef dyn a'r duwiau gyda'i gilydd. Roedd cerflun ohoni yn [[Teml|nheml]] enwog y dduwies [[Artemis]] ([[Diana]]) yn [[Ephesus]], yn [[Asia Leiaf]]. Arferid offrymu [[dafad]] ddu iddi am ei bod yn fam i'r [[Eumenides]] (y [[Furiae]]). Offrymid [[ceiliog]] iddi hefyd, am fod yr aderyn hwnnw'n cyhoeddi dyfodiad y wawr.
 
Mae hi'n cael ei phortreadu yn eistedd ar [[Cerbyd|gerbyd]], yn gwisgo gorchudd yn frith o [[Seren|sêr]]. Roedd y [[Cytser]]au yn ei rhagflaenu ar ei thaith. Weithiau mae hi'n cael ei dangos yn dwyn dau blentyn yn ei breichiau, un ohonynt yn ddu ac yn cynrychioli'r nos, neu farwolaeth, a'r llall yn wyn ac yn cynrychioli cwsg neu oleuni'r dydd.