A. W. Wade-Evans: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
cat
B dolen
Llinell 1:
Hanesydd Cymreig ac offeiriad Anglicanaidd oedd '''Arthur Wade Wade-Evans''' ([[31 Awst]] [[1875]] - [[4 Ionawr]] [[1964]]).
 
Ganed Wade-Evans yn [[Abergwaun]], [[Sir Benfro]], yn fab i gapten llong. Graddiodd o [[Coleg Iesu, Rhydychen|Goleg Iesu, Rhydychen]] yn [[1896]] a chafodd ei ordeinio'n ddiacon yn [[1898]]. Bu'n gurad yn [[Llundain]], [[Caerdydd]], [[English Bicknor]] a [[Welsh Bicknor]] cyn dod yn ficer France Lynch yn [[1909]]. Yn ddiweddarach bu'n ficer Pottersbury gyda Furtho a Yardley Gobion ac yna Wrabness. Ymddeolodd yn [[1957]], a bu'n byw yn [[Frinton-on-sea]], [[Essex]], lle y bu farw.
 
Cyhoeddodd nifer o lyfrau ar hanes cynnar Cymru a Phrydain. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei gred fod y farn gyffredinol ymysg haneswyr ar y pryd, fod trigolion Brythonaidd Lloegr wedi eu gyrru ar ffo i'r gorllewin gan y [[Sacsoniaid]], yn anghywir ac yn seiliedig ar gamddehongliad o ''[[De Excidio Britanniae]]'' gan [[Gildas]].