Parafeddyg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn tynnu: da:Paramediciner (strong connection between (2) cy:Parafeddyg and da:Ambulancebehandler)
B clean up using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Star of life2.svg|bawd|dde|180px|Seren Bywyd, symbol byd-eang Gwasanaeth Iechyd Argyfwng.]]
 
[[Gweithiwr meddygol]] proffesiynol yw '''parafeddyg''', fel arfer bydd yn aelod o'r [[Gwasanaeth Iechyd Argyfwng]], sy'n cyflenwi gwasanaeth argyfwng safon uwch [[cyn-ysbyty]], gofal [[argyfwng meddygol|meddygol]] a [[trawma corfforol|trawma]]. Mae parafeddyg yn cyflenwi triniaeth ac ymyriad argyfwng ar-safle, sefydlu cleifion er mwyn achub bywyd ac, pan fydd yn briodol, i gludo cleifion i ysbyty ar gyfer triniaeth pellach.<ref>[http://www.healthcare.ac.uk/careers/paramedic-science/ Careers: Paramedic science - Faculty of Health and Social Care Sciences, Kingston University London and St George's, University of London]</ref>
Llinell 15:
Crewyd y [[cerbyd]] cyntaf a ddylunwyd yn benodol fel ambiwlans yn ystod [[Rhyfel Napoleon]], a galwyd hi yn ''ambulance volante'' yn Ffrangeg. Crewyd hon gan Brif Lawfeddyg Napoleon sef y Barwn [[Dominique Jean Larrey]]. Bwriad y ddyfais a arferid ei thynnu gan geffyl, oedd i gludo cleifion at y llawfeddygon, a oedd yn aros y tu cefn i faes y gad, yn gyflym. Os oeddent yn goroesi'r daith gyda'u hanafiadau, byddent yn derbyn y lefel o sgiliau llawdrniaeth a oedd yn bodoli yn y 19eg ganrif cynnar, felly roedd eu hunllef ar ddechrau! Nid oedd y cerbydau'n gyffredin, ac ni roddwyd blaenoriath i driniaeth y rhai a oedd wedi eu hanafu; nid oedd yn anghyffredin i gerbydau fel y rhain gael y swydd o gludo arfau rhyfel hefyd i flaen y gad, cyn cludo'r cleifion yn ôl. Ni newidodd ddyluniad syml y cerbydau hyn dros y ganrif wedyn.
 
Er fod cymunedau wedi cael eu trefnu i ddelio gyda rhai a oedd yn sâl neu'n marw cyn belled yn ôl a'r [[plâ]] yn Llundain (1598, 1665), dim ond trefniadau dros dro oedd rhain. Ond daeth y trefnadau hyn yn fwy ffurfiol a pharhaol dros amser. Yn ystod [[Rhyfel Cartref America]], dyfeisiodd [[Jonathan Letterman]] system o orsafoedd cymorth cyntaf ar flaen y gad, ar lefel catrawd, lle sefydlwyd egwyddorion [[brysbennu]] am y tro cyntaf. Roedd byddin yr Unol Daleithiau wedi troi oddi wrth yr hen arfer o rhoi triniaeth aneffeithlon i gleifion, yn rhannol oherwydd mabwysiadu technoleg newydd megis y [[reiffl]] a systemau [[pelen Minié]]. Gwasanaethodd Letterman, a oedd yn uwchgapten, fel cyfarwyddwr meddygol Byddin Potomac. Sefydlodd [[ysbyty maes]] symudol. Cysylltwyd â phob pencadlys gan gorfflu ambiwlans effeithlon, a sefydlwyd gan Letterman ym mis Awst 1862, o dan rheolaeth staff meddygol yn hytrach na'r [[Adran Swyddog Cyflenwi]]. Trefnodd Letterman hefyd system effeithlon ar gyfer dosbarthu cyflenwadau meddygol. Mabwysiadwyd ei system ef gan fyddinoedd eraill yr Undeb, ac ym mhen hir a hwyr sefydlwyd yn swyddogol fel [[dull gweithredu meddygol]] holl fyddinoedd yr Unol Daleithiau mewn [[Deddf Cyngres]] ym Mawrth 1864. Yn dilyn Rhyfel Cartref America, dechreuodd hen lawiau ddefnyddio beth oeddent wedi ei ddysgu ar y maes, gan greu timau auchub bywyd a chorffluoedd ambiwlans.
 
Yng Ngwledydd Prydain, gweithredwyd yr ambiwlans ar gyfer sifiliaid gan yr ysbyty lleol neu'r heddlu, tra mewn rhai ardaloedd o Ganada, roedd yn gyffredin i'r trefnwr angladdau lleol (a oedd yn berchen ar yr unig gludiant yn y dref, lle gall y claf orwedd i lawr ynddi) weithredu'r gwasanaeth ambiwland yn ogystal a'r siop ddodrefn leol (gan adeiladu a gwerthu ceirch fel eilbeth). Mewn canolfanau mwy o faint, mewn amryw o wledydd, rodd y cyfrifoldeb yn disgyn ay yr Adran Iechyd, yr heddlu neu'r gwasnaeth tân lleol. Unwaith eto, dilynodd y system ar gyfer sifiliaid arweiniaeth y system filwrol; er y bu llond llaw o ambiwlansiau modur yn bodoli cyn y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] (1914-1918), ar faes y gad y profwyd y cysyniad hwn o ambiwlansiau modur, ac yn dilyn y rhyfel, daethant yn boblogaidd.