Frederick Richard West: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up
B →‎1826 – 1832: clean up, replaced: yn yr 20fed ganrif → yn yr 20g using AWB
Llinell 14:
Bu anghydfod rhwng mam West a'i chwiorydd parthed perchenogaeth Castell y Waun wedi marwolaeth Richard Myddleton, cafodd y mater ei setlo gan y llysoedd ym 1819 ond parhaodd y drwgdeimlad rhwng y chwiorydd wedi hynny.<ref name=":1">[http://www.historyofparliamentonline.org/volume/1820-1832/member/west-frederick-1799-1862 WEST, Frederick Richard (1799-1862), of Ruthin Castle, Denb. Published in The History of Parliament: the House of Commons 1820-1832, ed. D.R. Fisher, 2009]</ref>
 
Cyn yr 20fed ganrif20g doedd dim diwrnod etholiadau penodedig fel sydd bellach; roedd y Senedd yn cael ei gau a bu cyhoeddiad bod raid i bob etholaeth dewis aelod newydd mewn da bryd i gyrraedd Llundain erbyn cychwyn y senedd nesaf. Mater i Uchel Siryf y Sir oedd penodi diwrnod ar gyfer y bleidlais. Bu etholaethau pell i ffwrdd o [[Senedd y Deyrnas Unedig|San Steffan]], megis rhai'r [[Yr Alban|Alban]] yn cynnal etholiadau cynnar iawn ac etholaethau Llundain yn cynnal etholiadau hwyr. Y tueddiad yng [[Cymru|Nghymru]] oedd cynnal etholiadau yn y cyfnod canolig. Roedd cefnder West, mab chwaer ei fam, [[Robert Myddelton-Biddulph]] ar fin dathlu ei ben blwydd yn 21in oed (sef yr oedran y caniatawyd dynion i sefyll mewn etholiad) ac yn disgwyl i'r etholiad cael ei gynnal ar ôl ei ben-blwydd. Cyhoeddodd Myddelton-Biddulph ei fwriad i sefyll dros y bwrdeistrefi, ond perswadiodd West y Siryf i gynnal etholiad cynnar gan rwystro Myddleton-Biddulph rhag sefyll.<ref name=":1" />
 
Er gwaethaf ei ddichell bu bron i gynllun West fethu. Cefnogodd teulu Myddleton-Biddulph ymgeisydd arall o'r enw Joseph Ablet. Enillodd y ddau ymgeisydd 273 o bleidleisiau'r un. Cyflwynwyd deiseb i'r senedd i geisio pennu'r enillydd ond tynnodd Ablet ei enw yn ôl cyn clywed y ddeiseb, gan roi'r sedd i West.<ref name=":0" />