Pelagius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Llyfryddiaeth: 4 gweithred, replaced: == Darllen pellach == → == Llyfryddiaeth ==, {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
B →‎top: clean up, replaced: 6ed ganrif → 6g, 5ed ganrif → 5g using AWB
Llinell 7:
Wrth i'r [[Fisigothiaid]] baratoi i ymosod ar Rufain yn 410, ffois o'r ddinas honno i dalaith Rufeinig [[Affrica (talaith Rufeinig)|Affrica]]. Yno wynebodd wrthwynebiad ffyrnig Awstin o Hippo. Oddi yno fois i [[Palesteina|Balesteina]].
 
Ysgrifennodd sawl traethawd yn egluro ei athrawiaeth, yn cynnwys ''De Natura'' a ''De Liber Arbitrio''. Cafodd athrawiaeth Pelagius ei chyhoeddi'n anathema yn y 5ed ganrif5g a'r ganrif olynol. Cadarnhawyd hynny gan benderfyniad [[Cyngor Trent]] (1545-1563). Roedd ei athrawiaeth yn wrthun i'r [[Calfin]]iaid.
 
Un o'i ddisgyblion ysbrydol oedd yr awdur a adweinir fel [[Y Brython Sisilaidd]]. Ysgrifennodd gyfres o lithiau radicalaidd yn dwyn y teitl ''De Divitis'' ("Ynghylch y Goludog"), llithiau a leisiodd gefnogaeth i'r blaid radicalaidd ymhlith dilynwyr Pelagius. Ceir ynddynt syniadau herfeiddiol iawn, [[sosialaeth|sosialaidd]] eu naws, am greu cymdeithas gwbl gyfartal gydag eiddo yn cael ei rhannu gan bawb. Ei ebychiad oedd ''Tolle divitem"'' ("I lawr â'r goludog!").
 
Mae'r dystiolaeth yn gymysg am ddylanwad Pelagiaeth yn y Brydain ôl-Rufeinig a'r Gymru gynnar. Yn ôl traddodiad, ymwelodd Sant [[Garmon]] (Germanicus) â Phrydain i ymladd dylanwad 'Pelagiaeth'; awgryma hynny fod dilynwyr Pelagius yn niferus yno. Mae [[Gildas]] yn cyhuddo'r Brenin [[Maelgwn Gwynedd]] o fod yn Belagiad. Yn ôl ''Buchedd Dewi'', llyfr canoloesol sy'n honni adrodd hanes bywyd [[Dewi Sant]], cynhaliwyd [[synod]] [[Llanddewi Brefi]] yn y 6ed ganrif6g, lle galwyd ar Ddewi i gondemnio 'Pelagiaeth', oherwydd pryder fod dylanwad Pelagius yn gryf yng Nghymru. Nid yw'n amhosibl felly mai Cymro oedd Pelagius, ond does dim modd profi hynny.
 
== Gweler hefyd ==