|
|
==Hanes==
Ar ddechrau'r 8fed ganrif8g rheolai Seisyll ap Clydog yn Ngheredigion. Yn ôl yr achau traddodiadol roedd yn un o ddisgynyddion [[Ceredig]] fab [[Cunedda]], sylfaenydd Ceredigion. Tua'r flwyddyn 730 cipiodd Seisyll dri chantref [[Ystrad Tywi]] oddi wrth [[Rhain ap Cadwgan]], brenin [[Teyrnas Dyfed|Dyfed]], a'i ychwanegu at ei deyrnas ei hun. Yn nes ymlaen rhoddwyd yr enw [[Seisyllwg]] ar y deyrnas estynedig newydd, ond mae haneswyr diweddar yn nodi bod yr enw hwnnw i'w cael mewn dogfennau canoloesol diweddarach ac mai fel Ceredigion y cyfeirir at y deyrnas yn yr ychydig ffynonellau cyfoes.<ref>Wendy Davies, ''Early Medieval Wales'' (Prifysgol Caerlyr, 1982), tud. 110.</ref> Cofnodir fod ei fab, [[Arthen ap Seisyll]], wedi marw yn 807. Parhaodd Seisyllwg hyd 920 pan ddaeth yn rhan o deyrnas [[Teyrnas Deheubarth|Deheubarth]].
== Cyfeiriadau ==
|