A. W. Wade-Evans: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B dolen
ehangu fymryn; cat.
Llinell 1:
Hanesydd Cymreig ac offeiriad [[Anglicaniaeth|Anglicanaidd]] oedd '''Arthur Wade Wade-Evans''' ([[31 Awst]] [[1875]] - [[4 Ionawr]] [[1964]]).
 
Ganed Wade-Evans yn [[Abergwaun]], [[Sir Benfro]], yn fab i gapten llong. Graddiodd o [[Coleg Iesu, Rhydychen|Goleg Iesu, Rhydychen]] yn [[1896]] a chafodd ei ordeinio'n ddiacon yn [[1898]]. Bu'n gurad yn [[Llundain]], [[Caerdydd]], [[English Bicknor]] a [[Welsh Bicknor]] cyn dod yn ficer France Lynch yn [[1909]]. Yn ddiweddarach bu'n ficer Pottersbury gyda Furtho a Yardley Gobion ac yna Wrabness. Ymddeolodd yn [[1957]], a bu'n byw yn [[Frinton-on-sea]], [[Essex]], lle y bu farw.
 
Cyhoeddodd nifer o lyfrau ar hanes cynnar Cymru a Phrydain. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei gred fod y farn gyffredinol ymysg haneswyr ar y pryd, fod trigolion [[Brythoniaid|Brythonaidd]] Lloegr wedi eu gyrru ar ffo i'r gorllewin gan y [[Sacsoniaid]], yn anghywir ac yn seiliedig ar gamddehongliad o ''[[De Excidio Britanniae]]'' gan [[Gildas]] (?[[6ed ganrif]]). Yn ôl Wade-Evans, ysgrifenwyd y ''De Excidio'' - "y stori ddychmygol hon" sydd "wedi gwenwyno ffynhonnau hanes y Cymry am ganrifoedd"<ref>''Coll Prydain'', rhagymadrodd.</ref> - ar ddechrau'r [[8fed ganrif]], ond nid yw pawb yn derbyn ei ddamcaniaeth.
 
==Cyfeiriadau==
<references/>
 
==Cyhoeddiadau==
* ''Nennius's "History of the Britons"'' (1938)
* ''Coll Prydain'' (Gwasg y Brython, Lerpwl, 1950). Cyfieithiad o'r ''De Excidio Britanniae'' gyda rhagymadrodd a nodiadau.
* ''The emergence of England and Wales'' (1956, 1959)
* ''Welsh Christian origins'' (1934)
Llinell 17 ⟶ 20:
[[Categori:Hanesyddion Cymreig|Wade-Evans, A.W.]]
[[Categori:Hanes Cymru|Wade-Evans, A.W.]]
[[Categori:Pobl o Sir Benfro|Wade-Evans, A.W.]]
[[Categori:Genedigaethau 1875|Wade-Evans, A.W.]]
[[Categori:Marwolaethau 1964|Wade-Evans, A.W.]]