Cytundeb Tridarn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Cytundeb a luniwyd, yn ôl pob tebyg, ar 28 Chwefror, 1405, rhwng Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru, Henry Percy, Iarll Northumberland, ac Edmund Mortimer (ma... |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
Cytundeb a luniwyd, yn ôl pob tebyg, ar [[28 Chwefror]], [[1405]], rhwng [[Owain Glyndŵr]], [[Tywysog Cymru]], [[Henry Percy]], [[Iarll Northumberland]], ac [[Edmund Mortimer]] (mab-yng-nghyfraith Glyndŵr) oedd y '''Cytundeb Tridarn''' neu'r '''Cytundeb Triphlyg''' ([[Saesneg]]: ''Tripartite Indenture''). Mae'n bosibl ei fod wedi ei
Gellid dadlau fod y Cytundeb Tridarn yn un o'r dogfennau mwyaf syfrdanol yn [[hanes Prydain]]. Mae'r cytundeb yn ymrwymo'r cyngrheiriaid i gymhorthu ei gilydd yn erbyn unrhyw berygl iddynt fel arwyddwyr y cytundeb.
Ond fe â llawer ymhellach na hynny. Cyfeirir at [[darogan|broffwydoliaeth]], sy'n deillio mae'n debyg o'r [[Canu Darogan]] Cymreig, sy'n darogan yr ymrennir 'llywodraeth Prydain Fwyaf' ([[Lladin]]: ''regimen Brittaniae Majoris'') rhwng tri
A dyma'r rhan a roddir i Glyndŵr a phob Tywysog Cymru ar ei ôl, yn ôl y ddogfen:
:''the whole of [[Cambria]] or [[Cymru|Wales]] divided from [[Lloegr|Leogria]] now commonly called England by the following borders, limits, and bounds: from the [[Môr Hafren|Severn estuary]] as the [[Afon Hafren|River Severn]] flows from the sea as far as the northern gate of the city of [[Caerloyw|Worcester]]; from that gate directly to the ash trees known in Cambrian or [[Cymraeg|Welsh]] language as Onennau Meigion which grow on the high road from [[Bridgnorth]] to [[Kinver]]; then directly along the highway... to the head or source of the [[Afon Trent|River Trent]]; thence to the head or source of the river commonly known as the [[Afon Merswy|Mersey]] and so along to the sea.''<ref>Dyfynwyd gan R. R. Davies yn ''The Revolt of Owain Glyn Dŵr'' (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995), tud. 167.</ref>
Byddai Glyndŵr a'i
Mae'r cytundeb yn dyst i uchelgais mawr Glyndŵr i sefydlu Cymru'n deyrnas annibynnol ac yn adlewyrchu ei gryfder ar y pryd, gyda chefnogaeth brenin [[Ffrainc]] ac Edmund Mortimer, a hawliai [[teyrnas Lloegr|goron Lloegr]], yn fab-yng-nghyfraith iddo. Ond daeth tro ar fyd ac ni wireddwyd y cytundeb.
|