Grenadwr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 17eg ganrif17g, 16eg ganrif16g using AWB
B →‎top: clean up, replaced: 8fed ganrif → 8g (2) using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Grenadier-a-pied-de-la-Vieille-Garde.png|bawd|180px|Grenadwr yr Hen Warchodlu (''Vieille Garde'') gan [[Édouard Detaille]] (tua 1812).]]
[[Troedfilwr]] [[llu elît|elît]]<ref>Richard Bowyer. ''Dictionary of Military Terms'', 3ydd argraffiad (Llundain, Bloomsbury, 2004), t. 111.</ref> sy'n taflu [[grenâd|grenadau]] yw '''grenadwr'''.<ref>''[[Geiriadur yr Academi]]'', [grenadier].</ref> Yn hanesyddol cafodd y milwyr talaf eu dewis i daflu grenadau mewn brwydr, gan roi'r hen enw '''talfilwr''' iddynt.<ref>{{dyf GPC |gair=talfilwr |dyddiadcyrchiad=19 Mehefin 2016 }}</ref><ref>{{dyf gwe |url=https://books.google.co.uk/books?redir_esc=y&id=3AQVAAAAYAAJ&q=grenadier#v=snippet&q=grenadier&f=false |teitl=An English and Welsh Dictionary |awdur=John Walters |dyddiad=1828 |cyhoeddwr=Google Books }}</ref> Brwydrodd y grenadwr mewn byddinoedd Ewrop yn yr 17eg ganrif a'r 18fed ganrif18g, yn arbennig mewn [[gwarchae]]au a'r [[rhyfela'r ffosydd|ffosydd]].
 
Ni threfnid y grenadwyr cynharaf, ar ddiwedd yr [[16g]], mewn unedau arbennig, ond daethant yn fwyfwy pwysig yn oes rhyfela gwarchae. Swyddogaeth y grenadwr [[Ffrainc|Ffrengig]] oedd arwain yr ymosodiad ar [[rhagfur|ragfuriau'r]] gelyn drwy daflu grenadau uwch eu pennau ac yna dwyn cyrch ar yr agorfaoedd.<ref name=MH>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.military-history.org/soldier-profiles/british-grenadiers-soldier-profile.htm |teitl=British Grenadiers – Soldier Profile |dyddiad=14 Tachwedd 2011 |dyddiadcyrchiad=19 Mehefin 2016 |gwaith=Military History Monthly }}</ref> Erbyn canol yr [[17g]] ffurfiwyd [[cwmni (uned filwrol)|cwmnïau]] arbennig o fewn [[bataliwn|bataliynau]]. Derbynodd y grenadwyr hyfforddiant arbenigol, ac roeddynt angen cryfder a dewrder yn wyneb y gelyn. Roedd nifer o ddamweiniau wrth i'r grenadau ffrwydro'n rhy gynnar. Derbynient gyflog uwch na'r troedfilwyr eraill a breintiau arbennig, a gwisgent lifrai crand gan gynnwys y [[siaco]]. Cawsant eu harfogi â [[bwyall|bwyeill]] trymion i dorri [[gwrthglawdd|gwrthgloddiau]] a rhwystrau eraill,<ref name=EB/> ac fel rheol darparwyd arfau safonol y troedfilwr, [[mysged]] a [[bidog]].<ref name=MH/>
 
Yn ystod y 18fed ganrif18g ni ddefnyddiwyd y grenadwyr cymaint, ond cedwid hwy fel lluoedd elît i arwain y [[blaengyrch]].<ref name=MH/> Recriwtiwyd mathau gwahanol o grenadwyr fel rhan o'r drefn Ewropeaidd o fataliwn sy'n cynnwys pedwar cwmni, ond nid oedd fawr o wahaniaeth rhwng swyddogaethau'r grenadwr a milwr rheolaidd [[y gadres]]. Defnyddid [[marchoglu|march]]-grenadwyr am gyfnod ym myddinoedd Prydain a [[Gwlad Belg]]. Yn [[y Rhyfel Byd Cyntaf]] hyfforddid is-unedau'r bataliynau i daflu bomiau llaw ac i saethu [[grenâd reiffl|grenadau reiffl]].<ref name=EB>{{dyf Britannica |url=http://www.britannica.com/topic/grenadier-military |teitl=grenadier |dyddiadcyrchiad=19 Mehefin 2016 }}</ref> Nid yw'r grenadwr bellach yn bodoli, ond cedwir yr enw mewn ambell uned megis [[Gwarchodlu'r Grenadwyr]] yn [[y Fyddin Brydeinig]].
 
== Cyfeiriadau ==