Crwth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up
B clean up, replaced: Yn y 18fed ganrif → yn y 18g, 12fed ganrif → 12g, 9fed ganrif → 9g using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Britannica Crowd 9th Century Crwth.png|200px|bawd|Crythor yn chwarae'r crwth. ''Beibl'' [[Siarl Foel]], 9fed ganrif. Dyma'r llun cyntaf o'r crwth ac mae'r gwreiddiol i'w weld yn y ''Bibliothèque Nationale, Paris''.]]
[[Delwedd:David Teniers d. J. 003.jpg|200px|bawd|Cerddor (mewn coch) yn chwarae'r crwth, 17eg ganrif.]]
Hen [[offeryn cerdd]] llinyddol ydy'r '''crwth''', ([[Lladin Llafar]]: ''chrotha''; [[Gaeleg]]: ''cruit''; [[Saesneg]]: ''crwth'' neu ''crowd''; [[Almaeneg]]: ''chrotta'', ''hrotta''). Mae'n eithaf tebyg i'r ffidil (neu'r [[fiolin]]), ond fod ganddo fel arfer chwe thant. Caiff ei ganu'n wreiddiol drwy blycio ac yn ddiweddarach gyda [[bwa]] ac mae ganddo ffrâm betryal, bren; y rhan isaf yn flwch sain a'r rhan uchaf gyda thyllau o boptu i'r tannau; byddai'r crythor yn rhoi bysedd ei law chwith trwy'r tyllau hyn er mwyn dal y tannau ac yn symud y bwa â'i law dde. Ceir y cyfeiriad ysgrifenedig cyntaf at y crwth yng [[Cyfreithiau Hywel Dda|Nghyfreithiau Hywel Dda]] yn y 12fed ganrif12g.<ref>[http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/rhagor/erthygl/crwth/ Gwefan Amgueddfa Werin Sain Ffagan; Erthygl ar y crwth] adalwyd 18/04/2013</ref> Cyfeiria'r cyfreithiau hyn at y ffaith mai'r uchelwyr yn bennaf oedd yn ei ganu, fel y pibau a'r delyn.
 
Cafwyd cystadleuaeth cannu'r crwth yn [[Eisteddfod Aberteifi 1176|Eisteddfod]] yr [[Rhys ap Gruffudd|Arglwydd Rhys]] yng [[Castell Aberteifi|Nghastell Aberteifi]] ym 1176, lle urddwyd deunaw crythor. Ceir cywydd gan [[Rhys Goch Eryri]], tua 1436, yn canu clodydd y dewiniaid, yr acrobatiaid a'r cerddorion (gan enwi'r crythwyr) a gai eu croesawu i gartrefi'r uchelwyr. Tua 1600, wrth i sgiliau'r [[saer]] wella, a'r crythau'n haws eu prynnu, gwelir bod gan lawer o'r werin grwth er mwyn adloniant mewn ffeiriau ayb. Ynyn y 18fed ganrif18g fe'i ystyriwyd yn un o offerynnau cenedlaethol Cymru (gyda'r delyn a'r pibgorn).<ref>[http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3113689/ART30/crwth Tarian y Gweithiwr;] 12 Tachwedd 1885; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 19 Mai 2013.</ref>
 
==Tarddiad y gair==
Llinell 17:
Goroesodd pedwar crwth:
# [[Sain Ffagan]]: 'Crwth y Foelas. Naddwyd 1742 ar gefn y crwth ac fe'i gwnaed gan Richard Evans o [[Llanfihangel Bachellaeth|Lanfihangel Bachellaeth]], Sir Gaernarfon
# Amgueddfa'r Celfyddydau Cain, Boston: crwth Owain Tudur, [[Dolgellau]] o'r 19fed ganrif19g<ref>[http://www.mfa.org/collections/object/fiddle-crwth-50242 Delwedd o grwth Owain Tudur], Dolgellau (19fed ganrif); adalwyd</ref>
# Crwth Aberystwyth: mae hwn yn y [[Llyfrgell Genedlaethol]] yn [[Aberystwyth]]
# Crwth Warrington: fe'i cedwir yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Warrington. Mae hwn mewn cyflwr salach na'r tri arall, gyda'r gynffon, y tannau, y byseddfwrdd a'r nyten i gyd ar goll.<ref>[http://www.mfa.org/collections/object/fiddle-crwth-50242 Gwefan Amgueddfa ac Oriel Gelf Warrington]; adalwyd 19 Mai 2013</ref>