Benjamin Franklin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: [[File: → [[Delwedd: using AWB
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Benjamin Franklin by Joseph Siffrein Duplessis.jpg|bawd|dde|Benjamin Franklin gan [[Jospeh Siffred Duplessis]]]]
[[Delwedd:Franklin - ita, 1825 - 766672 R.jpeg|bawd|Franklin, 1825]]
Roedd '''Benjamin Franklin''' ([[17 Ionawr]] [[1706]] ([[Hen Arddull|H.A.]] [[6 Ionawr]]) [[1705]] – [[17 Ebrill]] [[1790]]) yn un o sefydlwyr [[Unol Daleithiau|Unol Daleithiau'r America]]. Roedd yn bolymath cydnabyddedig, ac yn argraffwr ac awdur blaenllaw, yn ogystal â bod yn ddychanwr, sylwebydd gwleidyddol, gwleidydd, gwyddonydd, dyfeisiwr a diplomat. Fel gwyddonydd, roedd yn ffigwr blaenllaw yn hanes [[ffiseg]] am ei ddarganfyddiadau a damcaniaethau ynglŷn â [[trydan|thrydan]]. Dyfeisiodd rhoden luched, deuffocal, y stôfstof Franklin a'r gwydr 'armonica'. Ef sefydlodd y llyfrgell fenthyg gyntaf yn yr Unol Daleithiau a'r gwasanaeth tân cyntaf [[Pennsylvania]]. Roedd yn un o genfogwyr cynharaf undod ymerodraethol, ac fel sylwebydd ac ymgyrchydd gwleidyddol, cefnogodd y syniad o'r genedl Americanaidd. Fel diplomat yn ystod y [[Rhyfel Annibyniaeth America|Chwyldro Americanaidd]], sicrhaodd gefnogaeth [[Ffrainc]] a chynorthwyodd yn y broses o wneud yr Unol Daleithiau'n annibynnol.
 
Ystyrir Franklin fel un o brif sylfaenwyr y gwerthoedd craidd a'r cymeriad sydd gan yr Unol Daleithiau heddiw. Roedd ganddo werthoedd Piwritanaidd o waith caled, addysg, naws gymdeithasol, sefydliadau hunan-lywodraethol a'i wrthwynebiad i awdurdodaeth gwleidyddol a chrefyddol am y credai mai gwyddoniaeth ac agweddau goddefol oedd y ffordd i hapusrwydd. Yng ngeiriau [[Henry Steele Commager]], "Yng nghymeriad Franklin, daeth gwerthoedd Piwritanaidd heb y gwendidau i'r amlwg, y Goleudigaeth heb ei wrês."<ref>{{eicon en}} Isaacson 2003, td. 491</ref> I Walter Isaacson, golygai hyn mai Franklin oedd, "yr Americanwr mwyaf medrus o'i gyfnod a'r mwyaf dylanwadol o ran llunio'r math o gymdeithas y byddai America yn datblygu i fod."<ref>{{eicon en}} Isaacson 2003, td. 492</ref>