Rhamantiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B dol
B →‎top: clean up, replaced: 8fed ganrif → 8g using AWB
Llinell 16:
| caption3 = ''Der Morgen'' gan [[Philipp Otto Runge]] (1808).
}}
Mudiad celfyddydol, llenyddol, a deallusol a ddechreuodd yn Ewrop ar ddiwedd y 18fed ganrif18g ac yr oedd ar ei anterth o 1800 hyd 1850 oedd '''Rhamantiaeth'''. Roedd yn rhannol yn adwaith i'r [[Chwyldro Diwydiannol]],<ref>{{dyf Britannica |url=http://www.britannica.com/EBchecked/topic/508675/Romanticism |teitl=Romanticism |dyddiadcyrchiad=31 Awst 2014 }}</ref> ond hefyd yn wrthryfel yn erbyn normau cymdeithasol a gwleidyddol aristocrataidd yn [[Oes yr Oleuo]] ac yn adwaith i [[rhesymoli (cymdeithaseg)|resymoli]] gwyddonol natur.<ref name="Casey">{{cite web | last = Casey | first = Christopher | date = October 30, 2008 | title = "Grecian Grandeurs and the Rude Wasting of Old Time": Britain, the Elgin Marbles, and Post-Revolutionary Hellenism | work = Foundations. Volume III, Number 1 | url = http://web.archive.org/web/20090513053304/http://ww2.jhu.edu/foundations/?p=8| accessdate = 2014-05-14 }}</ref> Yn bennaf yr oedd yn fudiad celfyddydol, cerddorol, a llenyddol, ond cafodd hefyd effaith fawr ar [[hanesyddiaeth]],<ref>David Levin, ''History as Romantic Art: Bancroft, Prescott, and Parkman'' (1967)</ref> addysg<ref>Gerald Lee Gutek, ''A history of the Western educational experience'' (1987) ch. 12 on [[Johann Heinrich Pestalozzi]]</ref> a'r [[gwyddorau naturiol]].<ref>Ashton Nichols, "Roaring Alligators and Burning Tygers: Poetry and Science from William Bartram to Charles Darwin," ''Proceedings of the American Philosophical Society'' 2005 149(3): 304–315</ref> Roedd ei heffaith ar wleidyddiaeth yn eang ac yn gymhleth; ar ei hanterth fe'i gysylltir â [[rhyddfrydiaeth]] a [[radicaliaeth (hanesyddol)|radicaliaeth]], ond roedd ei heffaith hir-dymor ar dwf [[cenedlaetholdeb]] yn bwysicach.
 
Dilysodd y mudiad emosiwn cryf fel ffynhonnell y profiad [[estheteg|esthetig]], gan roi pwyslais newydd ar emosiynau megis pryder, ofn, ac arswyd, yn enwedig yr hyn a deimlir wrth ymdrin â'r [[arddunol]] yn natur a'i nodweddion darluniadwy. Aruchelwyd [[celfyddyd werin]] a thraddodiadau hynafol, gwnaed digymhellrwydd yn nodwedd ddymunol (er enghraifft yr [[impromptu]], neu'r darn difyfyr cerddorol), a dadleuwyd dros [[epistemoleg]] naturiol wrth drafod gweithgareddau dynoliaeth yn nhermau iaith a thraddodiad. Estynodd Rhamantiaeth y tu hwnt i fodelau delfrydol [[rhesymoliaeth]] a [[clasuriaeth|chlasuriaeth]] gan adfywio [[canoloesoldeb]] yn nghelfyddyd a llenyddiaeth i geisio dianc rhag cyfyngiadau'r oes a ddaw o dwf poblogaeth, [[blerdwf trefol]], a [[diwydiannaeth]]. Cofleidiodd Rhamantiaeth yr estron, y dieithr, a'r pell mewn modd a ystyrir yn fwy wirioneddol na'r arddull ''[[chinoiserie]]'' o'r oes [[rococo]].