Palesteina: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B canrifoedd a Delweddau, replaced: [[File: → [[Delwedd: using AWB
B →‎Hanes: clean up, replaced: 13eg ganrif → 13g, 4edd ganrif → 4g using AWB
Llinell 26:
Mae pobl wedi byw yn yr ardal o'r cyfnod [[cynhanes]]yddol ymlaen. Ceir rhai o ddinasoedd hynaf y byd yno, fel [[Jericho]]. Tua diwedd yr ail fileniwm Cyn Crist ymsefydlodd yr [[Hebreaid]] yno, wedi eu harwain allan o gaethiwed yn yr [[Hen Aifft]] gan [[Moses]], yn ôl ''[[Llyfr Ecsodus]]'' yn yr [[Hen Destament]]. Sefydlodd y brenin [[Saul]] deyrnas yno tua 1,000 CC. Bu'n gartref i'r [[Ffilistiaid]] a sawl pobl arall hefyd, fel y [[Ffeniciaid]] a sefydlodd canolfannau fel [[Gaza]]. Yn dilyn teyrnasiad y brenin [[Solomon]] ffurfiwyd teyrnasoedd [[Teyrnas Israel|Israel]] a [[Judaea]]. Cwmcwerwyd y cyntaf gan yr [[Assyria]]id a'r olaf gan y [[Babilon]]iaid. Bu'n rhan o ymerodraeth [[Alecsander Fawr]] am gyfnod cyn dod yn rhan o'r [[Ymerodraeth Rufeinig]]. Yma, tua'r flwyddyn 3 CC efallai, y ganed [[Iesu o Nasareth]].
 
O ddiwedd y 4edd ganrif4g OC ymlaen, ymadawodd nifer o [[Iddewon]]. Daeth yn ganolfan [[pererindod]] i Gristnogion ac i'r Mwslemiaid hefyd, yn dilyn ei choncwest gan yr [[Arabiaid]] yn 636 OC. Cipiwyd rhannau sylweddol o Balesteina gan y [[Croesgadwyr]] a bu yn eu meddiant o 1099 hyd ganol y 13eg ganrif13g. Ar ôl cyfnod dan reolaeth yr Aifft, cipiwyd yr ardal gan [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]] yn 1516 ac fe'i rheolwyd ganddynt hyd y [[Rhyfel Byd Cyntaf]].
 
Ar ddiwedd cyfnod rheolaeth yr Otomaniaid agorwyd Palesteina i ddylanwadau newydd o'r Gorllewin. Dechreuodd Iddewon a fu ar wasgar ymsefydlu yno o ganol y 19eg ganrif ymlaen. Gyda hyn, datblygodd [[Seionaeth]] gyda'r nod o sefydlu gwladwriaeth Iddewig ym Mhalesteina. Arwydd o hyn oedd sefydlu [[Tel Aviv]] fel dinas Iddewig newydd yn 1909. Yn ôl rhai awdurdodau roedd tua 100,000 o Iddewon ym Mhalesteina erbyn y 1900au, ond hanerwyd eu nifer yn ystod y Rhyfel Mawr. Yn 1918 cipiwyd Palesteina gan Brydain. Cadarnheuwyd rheolaeth Prydain gan Fandad [[Cynghrair y Cenhedloedd]] yn 1922. Gyda [[Datganiad Balfour]] yn 1917, roedd Prydain eisoes wedi mynegi ei chefnogaeth i sefydlu gwladwriaeth Iddewig, ond arweiniodd hyn at wrthdaro rhwng yr ymsefydlwyr Iddewig a'r [[Palesteiniaid]] brodorol wrth i'r Seionwyr gipio eu tir. [[David Lloyd George]] fu'n bennaf gyfrifol am hynny yn ei amser fel Gweinidog Rhyfel a Phrif Weinidog y DU. Saethwyd dros 5,000 o Balesteiniaid gan filwyr Prydeinig rhwng 1936 ac 1939. Cafwyd sawl ymosodiad terfysgol a chyflafanau gan grwpiau Seionaidd terfysgol fel y [[Gang Stern]]. Dylifodd nifer o ymsefydlwyr Iddewig o Ewrop i'r ardal a gwaethygodd y sefyllfa. Yn 1947 penderfynodd y [[Cenhedloedd Unedig]] rannu Palesteina yn ddwy wladwriaeth, un i'r Iddewon a'r llall i'r Palesteiniaid, yn unol â 'Penderfynaid Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig 181' (''UN General Assembly Resolution 181''). Ond gwrthodwyd hyn gan y Palesteiniaid am y byddai'n golygu colli llawer o'r tiroedd gorau. Rhoddodd Prydain ei mandad heibio yn 1948 a chafwyd rhyfel gan yr Israeliaid ar y Palesteiniaid. Trawsfeddianwyd eu tiroedd a gorfodwyd miloedd lawer ohonynt i ffoi am eu bywydau: cyfeirir at hyn gan y Palesteiniaid fel ''[[Al Nakba]]'' ("Y Catastroffi").