Gabès: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B newid hen enw, replaced: Sudan → Swdan using AWB
B →‎top: clean up, replaced: yn yr 20fed ganrif → yn yr 20g using AWB
Llinell 2:
Dinas yn ne [[Tiwnisia]] sy'n ganolfan weinyddol [[Gabès (talaith)|talaith Gabès]] yw '''Gabès''' ([[Arabeg]]: قابس). Mae'n gorwedd ar wastadedd yr Arad ger arfordir y [[Môr Canoldir]] ar Draffordd Genedlaethol 1, rhwng [[Sfax]] i'r gogledd a [[Djerba]] i'r de. Mae'n dref ddiwydiannol gyda phoblogaeth o tua 116,000. Ceir [[gwerddon]] fawr ar gyrion y ddinas.
 
Roedd tref fechan dan reolaeth [[Carthago]] ar safle'r ddinas; sefydlwyd y [[Rhufeiniaid]] ddinas Tacapae ar y safle. Erbyn yr Oesoedd Canol roedd Gabès wedi datblygu yn derminws ogleddol un o'r llwybrau masnach ar draws y [[Sahara]] yn dod ag [[aur]] o [[Gorllewin Affrica|Orllewin Affrica]] a chaethweision o [[Swdan]]. Daeth y fasnach i ben yng ngyfnod rheolaeth [[Ffrainc]] yn Nhiwnisia a dirywiodd y dref, ond tyfodd eto yn yr 20fed ganrif20g i ddod yn ganolfan [[diwydiant]], yn enwedig wedi i [[olew]] gael ei ddarganfod yn y môr gerllaw; ceir safle [[petrogemeg]]ol fawr ar gyrion y ddinas.
 
Dydi Gabès ddim yn denu twristiaid o gwbl, er bod yr hen chwarter, y Jara, yn cynnwys sawl adeilad hanesyddol, ond mae tref fechan [[Matmata]] a'i chartrefi ogofaol, yn yr [[anialwch]] i'r de, yn atyniad mawr: saethwyd rhannau o'r ffilm ''[[Star Wars]]'' yno.