Cymry Llundain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up, replaced: 8fed ganrif → 8g (2) using AWB
Llinell 1:
Term a ddaeth yn ffasiynol ddiwedd y 18fed ganrif18g a dechrau'r ganrif olynol i ddisgrifio'r [[Cymry]] oedd yn byw a gweithio (dros dro neu fel arall) yn ninas [[Llundain]] yw '''Cymry Llundain'''. Yn ogystal â'r bobl o Gymru a oedd/sydd yn byw yno, mae'r term yn cael ei ddefnyddio yn aml i gyfeirio at weithgareddau diwyllianol ayyb y gymuned alltud hefyd.
 
== Hanes ==
Yn anad un ddinas arall yn [[Lloegr]] mae gan Lundain gysylltiadau hir â Chymru. Mae Cymry Llundain wedi cael eu disgrifio fel "yr hynaf a'r fwyaf o'r holl gymunedau o alltudion o Gymru". O'r Oesoedd Canol Diweddar ymlaen, ceir cofnodion am Gymry yn ymweld â Llundain - ac weithiau'n aros yno - fel milwyr hur, masnachwyr, ac ati. Cynyddodd y llif yn sylweddol ar ôl buddugoliaeth [[Harri Tudur]] ar [[Brwydr Bosworth|Faes Bosworth]] yn 1485. Aeth nifer o uchelwyr i'r ddinas i lys y brenin newydd, er enghraifft, a bu eraill yn byw yno yn gweithio fel gweinyddwyr a chyfreithwyr. Roedd [[porthmyn]] cynnar o Gymru yn adnabod y ddinas hefyd, er na fyddent fel rheol yn ymsefydlu yno.
 
Erbyn canol y 18fed ganrif18g roedd cymuned bur sylweddol o Gymry alltud yn byw yno, naill ai dros dro neu'n barhaol. Am fod Cymru yn amddifad o brifddinas a chanolfannau trefol mawr, daeth Llundain yn ganolbwynt i lenorion a hynafiaethwyr hefyd a sefydlwyd sawl cymdeithas ddiwylliannol wladgarol yno, gan gynnwys y [[Gwyneddigion]] a'r [[Cymmrodorion]]. Er eu bod yn gweithio o Lundain, un o brif amcanion y cymdeithasau hyn oedd hyrwyddo [[llenyddiaeth Gymraeg]] ac astudiaethau hynafiaethol yng Nghymru ei hun, yn ogystal â cheisio ennill parch at etifeddiaeth Cymru yng nghylchoedd deallusion Lloegr. Mae'r bobl a gysylltir a'r gweithgareddau hyn yn cynnwys [[Morrisiaid Môn]] (yn enwedig [[Lewis Morris]]), [[William Owen Pughe]], [[Owain Myfyr]], [[Goronwy Owen]] a [[Iolo Morganwg]]. I Iolo yn enwedig roedd hawlio Llundain yn ôl gan y Cymry, fel petai, o arwyddocad symbolaidd, a chynhaliodd gyfarfod cyntaf [[Gorsedd Beirdd Ynys Prydain]] yno. Dyma pryd sefydlwyd [[Ysgol Gymraeg Llundain]] hefyd, a fu'n gartref i lawysgrifau Cymraeg pwysig am gyfnod, yn ogystal â lle i ddarparu addysg Gymraeg.
 
Bu trai ar y gweithgareddau hyn yn y 19eg ganrif, wrth i argraffweisg niferus gael eu sefydlu yng Nghymru ac ysbryd [[Ymneilltuaeth]] afael yn y wlad. Ond erbyn canol y ganrif, am resymau economaidd yn bennaf, ymfudodd nifer o bobl o haenau is cymdeithas i Lundain er mwyn cael gwaith, yn enwedig o rannau gwledig o dde-orllewin Cymru fel [[Ceredigion]] a [[Sir Gaerfyrddin]] (tueddai pobl yn y Gogledd i geisio gwaith yn [[Lerpwl]]). Roedd y porthmyn wedi arfer cyrchu gwartheg i Lundain ers canrifoedd, ond heb aros yno fel rheol. Ond rwan aeth nifer o werthwyr llaeth gyda nhw ac ymsefydlu yno gan fod galw am eu cynnyrch yn y farchnad, a Llundain yn tyfu mor gyflym. Codwyd sawl [[capel]] Cymraeg yn Llundain yn y cyfnod yma hefyd.