Llancarfan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: [[File: → [[Delwedd: using AWB
B →‎Clas Llancarfan: clean up, replaced: 11eg ganrif → 11g, 6ed ganrif → 6g using AWB
Llinell 22:
[[Delwedd:St Cadoc Llancarfan, Glamorgan, Wales.jpg|bawd|Eglwys Sant Cadoc]]
==Clas Llancarfan==
Roedd Llancarfan yn adnabyddus yn y Gymru gynnar am ei [[clas|glas]] (ar safle eglwys Llancarfan heddiw) neu fynachlog gynnar a sefydlwyd gan [[Sant]] [[Cadog]] yn y 6ed ganrif6g. Ceir carreg ag arni arysgrif Ladin o'r 11eg ganrif11g neu ddechrau'r ganrif olynnol yn yr eglwys. Yn ôl traddodiad, cedwid llyfr efengylau [[Gildas]] yma. Yma hefyd yr ysgrifenwyd ''Buchedd Sant Cadog'' yn [[Lladin]] gan y mynach Lifris ac ymddengys y bu'n ganolfan dysg bwysig yn yr [[Oesoedd Canol Cynnar]]. Yr enwocaf o lenorion mynachaidd Llancarfan yw [[Caradog o Lancarfan]] (fl. 1135), awdur nifer o fucheddau saint. Awgrymwyd o gyfnod y Dadeni ymlaen mai ef a ysgrifennodd ''[[Llyfr Llandaf]]'' a fersiwn gynharaf ''[[Brut y Tywysogion]]'', ond diweddar yw'r traddodiadau hyn ac yn achos y ''Brut'' gwyddys bellach ei fod yn ffrwyth sawl awdur a chanolfan yn hytrach na gwaith unigolyn.
 
Cofnodir anrheithio'r clas gan fôr-ladron [[Llychlyn]]aidd yn y flwyddyn 988, yn ôl yr ''[[Annales Cambriae]]''. Pan feddianwyd [[Morgannwg]] gan y [[Normaniaid]] rhoddwyd Llancarfan i fynachlog Pedr Sant yng [[Caerloyw|Nghaerloyw]] a darfu am y clas Cymreig.