Chartres: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) Tudalen newydd: thumb|200px|Eglwys Gadeiriol Chartres. Dinas yn Ffrainc yw '''Chartres'''; 96 km i'r de-orllewin o Paris. Saif ar fryn ar lan Afon Eure. Chart... |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 06:56, 17 Rhagfyr 2007
Dinas yn Ffrainc yw Chartres; 96 km i'r de-orllewin o Paris. Saif ar fryn ar lan Afon Eure.
Chartres oedd prif dref llwyth y Carnutes, ac yn y cyfnod Rhufeinig fe'i gelwid yn Autricum, o enw'r afon Autura (Eure), ac yna civitas Carnutum. Daw'r enw "Chartres" o enw'r Carnutes. Llosgwyd y ddinas gan y Normaniaid yn 858. Yn y Canol Oesoedd roedd yn brif dref adral Beauce. Cafodd ei chipio gan y Saeson yn 1417, ond fe'u gyrrwyd allan yn 1432. Yn ystod Rhyfeloedd Crefyddol Ffrainc, cipiwyd hi gan Henri IV yn 1591, a choronwyd ef yno dair blynedd yn ddiweddarach. Yn ystod y rhyfel rhwng Ffrainc a Prwsia, fe'i cipiwyd gan yr Alamaenwyr yn 1870.
Adeilad pwysicaf y ddinas yw Eglwys Gadeiriol Chartres, sy'n cael ei hystyried yr enghraifft orau o Eglwys Gadeiriol yn yr arddull gothic yn Ffrainc, ac efallai yn y byd. Enwyd yr eglwys fel Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.