Eglwys y Santes Fererid, y Rhath: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Twtio'r iaith rywfaint (hynny yw cywiro ambell i wall), e.e. Fe'i hystyrir (mae 'i' yn achosi ychwanegu 'h' pan fydd yn gweithredu fel rhagenw gwrthrychol, hyd yn oed i enwau gwrywaidd, er mai benywaidd yw 'Eglwys' wrth gwrs)
B →‎top: clean up, replaced: yn y 18fed ganrif → yn y 18g using AWB
Llinell 11:
Eglwys plwyf [[y Rhath]], yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]], yw '''Eglwys y Santes Fererid o [[Antiochia]]'''. Adeilad [[Adfywiad Gothig|neo-gothig]] ydyw, a adeiladwyd rhwng 1869 a 1870, ond saif ar safle capel canoloesol. Fe'i hystyrir yn un o weithiau gorau'r pensaer Cymreig [[John Prichard]].<ref name="Newman">{{cite book|last=Newman|first=John|year=1995|title=Glamorgan|series=''The Buildings of Wales''|location=Llundain|publisher=Penguin|page=297}}</ref>
 
[[Capel anwes]] i briordy'r Santes Fair yn nhref Caerdydd oedd ar y safle hwn yn wreiddiol. Daeth John Stuart, [[Ardalydd Bute|Ardalydd 1af Bute]], yn dirfeddiannwr ar yr ardal yn y 18fed ganrif18g hwyr, ac fe estynodd yr eglwys gan adeiladu mawsolëwm ar ei gyfer ef a'i deulu yn 1800. Wrth i'r Rhath droi'n faestref i Gaerdydd a nifer y trigolion gynyddu'n sylweddol, penderfynwyd dymchwel yr eglwys, a oedd erbyn hynny'n yn rhy fechan ar gyfer y plwyf.<ref name="Rose"/> Dechreuwyd ei hail-adeiladu i gynlluniau'r Cyrnol Alexander Roos ym 1867, ond ar ôl bwrw'r sylfeini penderfynodd y 3ydd Ardalydd, a oedd wedi troi'n 21 oed, i benodi John Prichard yn ei le.<ref>{{cite book |title=Cardiff and the Valleys: Architecture and townscape |last=Hilling |first=John B. |year=1973 |publisher=Lund Humphries |location=Llundain|ref=harv|page=119}}</ref>
 
Yn yr ystlys ogledd-orllewinol cododd Prichard mawsolëwm newydd ar gyfer y Buteiaid yn 1881–6, mewn arddull crandiach na gweddill yr adeilad.<ref name="Newman"/> Cynlluniodd hefyd feindwr trawiadol ar gyfer yr eglwys, ond nid adeiladwyd hon a chodwyd tŵr cymharol isel yn ei le yn 1926 fel cofeb i'r plwyfolion a fu farw yn y [[Y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru|Rhyfel Byd Cyntaf]].<ref name="Rose">{{cite book|last=Rose|first=Jean|year=2013|title=Cardiff Churches Through Time|location=Stroud|publisher=Amberley Publishing|pages=18–20}}</ref> Dinistriwyd llawer o'r cerrig beddau yn y fynwent gan gyngor y ddinas mewn ymgyrch i'w 'thacluso' yn 1969.<ref name="Rose"/>