Merch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Perthynas: Ffynonellau using AWB
B →‎Perthynas: clean up, replaced: 16eg ganrif → 16g, 14eg ganrif → 14g, 13eg ganrif → 13g using AWB
Llinell 10:
 
===Perthynas===
Merch yw'r enw am [[epil]] benywaidd rhywun, a [[mab]] yw'r gair am epil gwrywaidd. Yn draddodiadol, fe'i defnyddiwyd i ddangos perthynas y person i'w [[tad|thad]] neu ei [[mam]] yn y ffurf enwi [[patronymig]], fel a wneir hyd heddiw gydag 'ap' (e.e. Huw ap Dafydd), e.e. roedd cymeriad poblogaidd yn Arfon gynt o'r enw '[[Marged uch Ifan|Marged ferch Ifan]]'. Un o'r enghreifftiau cynharaf y gwyddom amdani yw '[[Elen Luyddog|Elen Luyddog ferch Cystennin]]', mewn llawysgrif o'r 13eg ganrif13g sy'n cofnodi chwedl [[Macsen Wledig]]. Fel arfer, 'f' fach a roddir yn hytrach na phriflythyren. Cofier hefyd am '[[Branwen ferch Llŷr|Franwen ferch Llŷr]]' yn y [[Mabinogi]] (''[[Llyfr Gwyn Rhydderch]]'', 14eg ganrif14g). Weithiau, newidiai 'merch' yn 'uch'/'ych', megis yn yr enw 'Nest ych Hywel' (1759) neu yn 'ach' fel a geir yn 'Elen ach William' (16eg ganrif16g). Ceir enghreifftiau hefyd o enwau [[matronymig]] ar ferched.
 
Mae enghreifftiau eraill yn cynnwys 'merch fedydd' (''god-daughter''), 'merch-yng-nghyfraith' (''daughter-in-law''); ceir 'merch wen' (''stepdaughter'') hefyd, ond 'llysferch' sy'n arferol heddiw. 'Merch fonheddig' ydy dynes o dras, sef boneddiges, a 'merch ordderch' ydy 'merch anghyfreithlon' (cf. hefyd 'merch/mab perth a llwyn').