Marion Eames: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
trefn wici |
|||
Llinell 1:
Awdur nifer o [[nofel]]au [[hanes]]yddol [[Cymraeg]] oedd '''Marion Eames''' ([[5 Chwefror]] [[1921]] - [[3 Ebrill]] [[2007]]).
==Bywyd a gwaith==
Yr oedd Marion Eames wedi bod yn ysgrifennu straeon byrion yn Saesneg ers dyddiau ysgol. Wedi dychwelyd i Ddolgellau dechreuodd ysgrifennu erthyglau yn Saesneg a Chymraeg i bapurau [[Plaid Cymru]], a daeth yn drefnydd rhanbarthol ar gyfer Plaid Cymru. Cafodd swydd golygydd y [[Papur Newydd|papur]] wythnosol lleol, ''Y Dydd'' ond, gan gymaint oedd pwysau'r gwaith arni, bu raid iddi roi'r gorau iddi, gan beidio â gweithio o gwbl am gyfnod. Y pryd hynny fe ail-daniwyd ei diddordeb mewn [[cerddoriaeth]]. Enillodd ar y ddeuawd [[cerdd dant]] yn [[Yr Eisteddfod Genedlaethol|Eisteddfodau Cenedlaethol]] Caerffili (1950) ac Aberystwyth (1952), ac enillodd ar ganu i hunangyfeiliant y [[telyn|delyn]] yn Eisteddfod Genedlaethol Llangefni (1957). Gyda chymorth grant fach aeth i astudio'r [[piano]] a'r delyn yng Ngholeg Cerdd Guildhall yn [[Llundain]], gyda'r bwriad o ddychwelyd i Ddolgellau yn athrawes cerddoriaeth. Ond tra yn Llundain cyfarfu â'r [[newyddiadurwr]] Griffith Williams a'i briodi yn 1955. Bu'n gweithio i'r cylchgrawn ''[[Home & Country]]'' cyn i'r ddau ohonynt achub cyfle i ddychwelyd i Gymru, gan symud i [[Morgannwg|Forgannwg]] lle y bu Marion yn gynhyrchydd radio i'r [[BBC]] yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]] hyd nes iddi ymddeol ym 1980.
Parhai Marion Eames i ysgrifennu, gan gynnwys bod yn rhan o griw ysgrifennwyr cynnar Pobl y Cwm. Cafodd afael ar ddeunydd crai ei nofel gyntaf, ''[[Y Stafell Ddirgel]]'', yn yr erthygl '[[Crynwriaeth yng Nghymru|Crynwyr Cymreig]] Ardaloedd Dolgellau' a ymddangosodd mewn cyfrol o'r [[Y Geninen|Geninen]] yn 1889. Yr oedd darllen yr erthygl eisoes wedi ei hysgogi i ysgrifennu stori fer ar gyfer cystadleuaeth yn ''[[Y Cymro]]'', a hynny cyn iddi fynd i Lundain. Cyhoeddwyd ''Y Stafell Ddirgel'' ym 1969, a'i derbyn yn frwdfrydig gan y beirniaid llenyddol. Cyhoeddodd 6 nofel i oedolion i gyd ynghyd â nofelau ar gyfer plant a rhai gweithiau eraill.
Canmolir ei gwaith gan feirniaid llenyddol am ei dawn adrodd stori ac ysgrifennu [[deialog]], a'u gallu i greu naws sawl cyfnod hanes penodol mewn mannau penodol, rhai megis Dolgellau a Phenbedw yn gyfarwydd iddi. Seilir ei gwaith ar ymchwil hanesyddol trylwyr. <ref> ''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'', gol. Meic Stephens (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986) </ref> Addaswyd Y Stafell Ddirgel a'r Rhandir Mwyn ar gyfer y teledu gan y BBC, yn fuan ar ôl eu cyhoeddi, ar adeg pan oedd safon [[drama deledu|dramau teledu]] Cymraeg yn codi'n gyflym iawn. Gwnaeth y ddwy gyfres argraff ar wylwyr teledu nad oeddynt wedi darllen y nofelau. Ymddengys y thema alltudedd yn ei nofelau dro ar ôl tro.▼
▲Canmolir ei gwaith gan feirniaid llenyddol am ei dawn adrodd stori ac ysgrifennu [[deialog]], a'u gallu i greu naws sawl cyfnod hanes penodol mewn mannau penodol, rhai megis Dolgellau a Phenbedw yn gyfarwydd iddi. Seilir ei gwaith ar ymchwil hanesyddol trylwyr. <ref> ''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'', gol. Meic Stephens (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986) </ref> Addaswyd ''Y Stafell Ddirgel'' a'r ''Rhandir Mwyn'' ar gyfer y teledu gan y BBC, yn fuan ar ôl eu cyhoeddi, ar adeg pan oedd safon [[drama deledu|dramau teledu]] Cymraeg yn codi'n gyflym iawn. Gwnaeth y ddwy gyfres argraff ar wylwyr teledu nad oeddynt wedi darllen y nofelau. Ymddengys y thema alltudedd yn ei nofelau dro ar ôl tro.
==Llyfryddiaeth==
===Gwaith Marion Eames===
====Nofelau ar gyfer oedolion====
|