Llenyddiaeth Gymraeg yr 17eg ganrif: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 4:
Er gwaethaf y colli nawdd roedd y traddodiad barddol yn araf i edwino ond edwino a wnaeth. Mae'r llond llaw o feirdd da fel [[Siôn Philyp]] a'i frawd [[Rhisiart Philyp|Rhisiart]] (Philypiaid Ardudwy), [[Richard Hughes (bardd)|Richard Hughes]], [[Edmwnd Prys]], [[Siôn Tudur]], [[Huw Llwyd]] a [[Thomas Prys]] yn eithriad i'r rheol ac yn perthyn mewn ysbryd i'r ganrif ragflaenol. Ymhlith yr olaf o'r beirdd proffesiynol oedd [[Owen Gruffudd]] a [[Rhys Cadwaladr]], ar ddiwedd y ganrif a dechrau'r ganrif nesaf, ond digon dinod ac ystrydebol yw eu canu mewn cymhariaeth â beirdd mawr yr 16eg ganrif.
Mae'n ddarlun tipyn mwy iach yn y [[canu rhydd]], gyda beirdd fel [[Edward Morris]] o'r Perthillwydion a [[Huw
Un o lenorion mwyaf dylanwadol y ganrif oedd [[Rhys Prichard]] ('Y Ficer Pritchard' neu'r 'Hen Ficer'). Cyfansodd yr Hen Ficer nifer o bennillion syml, gwerinol, ar bynciau crefyddol. Fe'u cyhoeddwyd fel ''[[Canwyll y Cymry]]'' yn 1681, ddeugain mlynedd ar ôl marwolaeth yr Hen Ficer, a daethant mor bwysig â'r [[Beibl]] a'r cyfieithiadau o ''[[Taith y Pererin|Daith y Pererin]]'' ym mywyd crefyddol y werin.
|