Segontium: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot Adding: it:Segontium, pl:Segontium
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 6:
Cafodd y gaer gyntaf ei godi gan [[Agricola]] yn y flwyddyn [[78]]. Caer bridd a phren dros dro ydoedd ar y dechrau ond codwyd muriau cerrig o'i chwmpas yn ddiweddarach. Roedd y gaer yn cael ei defnyddio neu ei adael yn ôl yr amgylchiadau. Gwelwyd cyfnod o adeiladu sylweddol yn ystod yr ail ganrif. Ail-adeiladwyd rhannau o'r gaer yn ystod teyrnasiad [[Septimius Severus]] ar ddechrau'r [[3edd ganrif]] pan ychwanegwyd pencadlys llafurfawr a chyflenwad dŵr newydd trwy bibell danddaearol. Cafodd y gaer ei adael heb ei defnyddio yn hanner cyntaf y [[4edd ganrif]] ond fe'i meddianwyd o'r newydd rhwng [[360]] a chyfnod [[Magnus Maximus]] (gweler isod).
 
Mae cerrig rhannau isaf y muriau i'w gweld yno o hyd ynghyd â sylfeini adeiladau eraill fel y pencadlys ac olion teml (gysegredig i [[Mithras]] yn ôl pob tebyg). O amgylch y gaer, cafwyd hyd i weddillion ''[[vicus]]'', sefydliad answyddogol i farsiandïwyr a gwragedd (answyddogol) y milwyr.
 
Mae'r gweddillion Rhufeinig a elwir '''Hen Waliau''', rhwng y gaer a'r dref bresennol, yn dyddio o'r [[3edd ganrif]] pan adnewyddiwyd y gaer dan Severus. Rhan o fur yn unig sydd i'w gweld heddiw. Ymddengys mai ystorfa o ryw fath ar gyfer y gaer oedd Hen Waliau, er bod rhai wedi dadlau ei fod yn gaer ar wahân.