Segontium: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Segontiaci
Llinell 10:
Mae'r gweddillion Rhufeinig a elwir '''Hen Waliau''', rhwng y gaer a'r dref bresennol, yn dyddio o'r [[3edd ganrif]] pan adnewyddiwyd y gaer dan Severus. Rhan o fur yn unig sydd i'w gweld heddiw. Ymddengys mai ystorfa o ryw fath ar gyfer y gaer oedd Hen Waliau, er bod rhai wedi dadlau ei fod yn gaer ar wahân.
 
Cysylltir Segontium â'r [[Rhestr Ymerodron Rhufeinig|ymerodr Rhufeinig]] [[Magnus Maximus]] ([[Macsen Wledig]]) yn y chwedl Gymraeg ganoloesol [[Breuddwyd Macsen Wledig]] a ffynonellau eraill. Mae rhai ysgolheigion wedi cysylltu'r gaer a llwyth y [[Segontiaci]]; cyfeirir at y rhain gan Iŵl Cesar wrth roi hanes ei ail ymgyrch ym Mhrydain yn 55 CC yn ei Commentarii de Bello Gallico. Wedi iddo ennill buddugoliaeth yn erbyn Cassivellaunus yn nyffryn Afon Tafwys, ildiodd nifer o lwythau iddo, yn cynnwys y Segontiaci.
 
Ceir amgueddfa ar y safle, sydd yng ngofal [[Cadw|CADW]].