Hadith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up, replaced: 10fed ganrif → 10g, 8fed ganrif → 8g (2), 7fed ganrif → 7g using AWB
Llinell 2:
Ystyr y term '''hadith''' ([[Arabeg]]: '''حديث''', ''ḥadīṯ''; lluosog ''ʾaḥādīṯ'' '''أحاديث''') yw dywediad llafar gan [[Mohamed]], proffwyd [[Islam]], neu un o'r gweithiau sy'n cynnwys casgliadau o'r dywediadau hynny a thraddodiadau eraill am Fohamed a'i gydymdeithion, a ystyrir gan Fwslemiaid fel canllawiau ynglŷn â bywyd personol pob Mwslim a chymuned yr [[Umma]]. Maent yn rhan o'r hyn a elwir yn "Draddodiad y Proffwyd" gan Fwslimiaid: dydyn nhw ddim yn rhan o'r [[Coran]] ei hun.
 
Ceir sawl casgliad o ddywediadau a thraddodiadau a elwir yn hadithau. Mae ei awdurdod yn y byd Islamaidd yn amrywio. Mae'r hadithau cynharaf yn rhai y credir iddynt gael eu casglu o fewn cenhedlaeth neu ddwy ar ôl marwolaeth Mohamed tra bod y rhai mwy diweddar yn dyddio o'r 9fed neu'r 10fed ganrif10g. Mae graddfa eu derbyniaeth gan Fwslemiaid yn amrywio hefyd. Yn achos yr hadithau mwy diweddar, er enghraifft, mae rhai yn rhan o draddodiad y Mwslemiaid [[Sunni]] ac eraill yn perthyn i draddodiad y [[Shia]] neu enwadau eraill.
 
==Hanes==
Llinell 9:
Dywed haneswyr Mwslemaidd mai'r [[Califf]] [[Uthman Ibn Affan|Uthman]] (y trydydd khalifa, neu olynydd ysbrydol Mohamed), oedd y cyntaf i annog y Mwslemiaid i roi'r [[Coran]] ar glawr mewn ffurf safonol, ac i gofnodi'r hadith. Ond lladdwyd Uthman gan wrthryfelwyr yn 656.
 
Mae barn haneswyr, o fewn a'r tu allan i Islam, yn rhanedig am yr hyn a ddigwyddodd nesaf. Mae rhai yn credu fod llawer o'r hadithau yn perthyn i'r 7fed a'r 8fed ganrif8g ond mae eraill o'r farn mai traddodiad llafar oedd yn gyfrifol am y trosglwyddiad, yn bennaf neu'n gyfangwbl. Does dim hadith ysgrifenedig o'r cyfnod hwnnw wedi goroesi.
 
Roedd ysgolheigion y cyfnod [[Abbasid]] yn gorfod wynebu'r ffaith fod y corff mawr o hadithau yn cynnwys tradoddiadau amrywiol iawn gyda gwahaniaethau mawr mewn rhai ohonynt. Roedd angen gosod safonau a phenderfynu pa hadithau oedd yn ddilys a gwahaniaethu rhwng y rhai y gellid eu hystyried yn perthyn i gyfnod Mohamed a'i ddilynwyr a'r lleill, diweddarach, oedd yn aml yn cefnogi barn enwadol neu wleidyddol ar faterion sy'n ganolog i Islam. Ar ddechrau'r 7fed ganrif7g dechreuodd trosglwyddwyr yr hadith ymchwilio ffynhonnell y dywediad. Dyma gychwyn y syniad o ''[[Isnad]]'', sef 'dilysrwydd yr hadith'. Credir i'r casgliadau cynharaf sydd ar glawr heddiw gael eu hysgrifennu yn yr 8fed ganrif8g.
 
==Prif gasgliadau==