Masnach gaethweision yr Iwerydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
YiFeiBot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 langlinks, now provided by Wikidata on d:q12981967
B →‎top: clean up, replaced: 16eg ganrif → 16g using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Triangular trade.svg|bawd|Ardaloedd a llwybr y fasnach drionglog.]]
[[Delwedd:Official medallion of the British Anti-Slavery Society (1795).jpg|bawd|Medaliwn Cymdeithas Gwrth-Gaethwasiaeth Prydain.]]
Masnach mewn [[caethwasiaeth|caethweision]] [[Affrica]]naidd a gludwyd ar draws [[Cefnfor yr Iwerydd]] o'r 16eg ganrif16g hyd y 19eg ganrif oedd '''masnach gaethweision yr Iwerydd'''. Gelwir hefyd yn "y fasnach drionglog" am iddi ddigwydd ar dri llwybr: teithiodd masnachwyr Ewropeaidd i Orllewin Affrica i gyfnewid nwyddau am gaethweision; cludwyd y caethweision i'r [[Byd Newydd]] i'w gwerthu a'u gorfodi i weithio; a chludwyd y nwyddau a dyfwyd neu gynhyrchwyd gan y caethweision i Ewrop.
 
Cyfnewidiodd masnachwyr Ewropeaidd [[rỳm]], potiau haearn, [[glain (mwclis)|gleiniau]], [[dryll]]iau a nwyddau eraill am gaethweision. Cafodd y caethweision eu harchwilio a'u gwerthu mewn masnachoedd ar arfordiroedd Gorllewin Affrica. Roedd y fasnach yn hwb economaidd i ymerodraethau [[Ymerodraeth Portiwgal|Portiwgal]], [[Yr Ymerodraeth Brydeinig|Prydain]], [[Ymerodraeth Ffrainc|Ffrainc]], [[Ymerodraeth Sbaen|Sbaen]], a'r [[Ymerodraeth yr Iseldiroedd|Iseldiroedd]]. Roedd caethweision yn [[yr Unol Daleithiau]], [[y Caribî]] a [[Brasil]] yn gweithio ar ffermydd a chaeau [[cotwm]], [[tybaco]], a [[siwgr]]. Cafodd cotwm crai a nwyddau eraill eu cludo i Ewrop. Cludwyd hefyd rhai caethweision i Ewrop i weithio yno fel adeiladwyr neu weision.