Cristnogaeth yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Dechreuadau: clean up, replaced: 2ail ganrif → 2g using AWB
Llinell 5:
Daeth Cristnogaeth i [[Ynys Brydain]] yn y cyfnod Rhufeinig. [[Celtiaid]] (y [[Brythoniaid]]) oedd y trigolion brodorol, ond ymsefydlodd pobl o rannau eraill o'r [[Ymerodraeth Rufeinig]] yn eu mysg. Mae'n debyg mae yn y trefi a dinasoedd Rhufeinig y cafwyd y Cristnogion cyntaf. Ar ddechrau'r [[3g]] ceir tystiolaeth fod cenhadon Cristnogol yn weithgar yn y Brydain Rufeinig. Merthyrwyd tri ohonynt tua ganol y ganrif, sef y seintiau [[Aaron]] ac [[Iwliws]] (a ferthyrwyd yng [[Caerleon|Nghaerleon]] ac [[Alban (sant)|Alban]]. Cofnodir presenoldeb tri [[esgob]] o Brydain yng [[Cyngor Arles|Nghyngor Arles]] yn [[314]]. [[Lladin]] oedd iaith yr eglwys gynnar ac ymddengys iddi gymryd amser i ymwreiddio ym mywyd y bobloedd [[Brythoneg]] eu hiaith. Ni ddiflanodd [[amldduwiaeth]] y Brythoniaid dros nos ac am gyfnod hir mae'n rhaid fod y ddwy grefydd wedi bodoli ochr yn ochr. Un arall o'r Cristnogion cynnar hyn oedd [[Pelagius]], a gollfarnwyd yn ddiweddarach fel [[heretig]]; mae lle i gredu ei fod yn Frython.
 
Yn yr Oesoedd Canol credid mai [[Lucius]] a ddaeth â Christnogaeth i Ynys Brydain yn yr 2ail ganrif2g a'i fod wedi sefydlu pump talaith eglwysig gyda Chymru'n [[archesgobaeth]] yn cael ei rheoli gan esgob yng Nghaerleon, ond gwyddys erbyn heddiw nad oes sail i'r hanes.
 
===Oes y Seintiau===