Ffleminiaid de Penfro: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 12fed ganrif12g using AWB
B →‎top: clean up, replaced: 12fed ganrif → 12g using AWB
Llinell 5:
Daeth y Ffleminiaid hyn o Loegr, lle ceir cofnodion iddynt ymsefydlu yn rhannau dwyreiniol y wlad yn y ganrif flaenorol. Bwriad Harri I oedd disodli'r Cymry Dyfed o'u tiroedd a chreu "ardal glustog" rhwng [[Normaniaid]] y de, bychan mewn nifer, a'r Cymry. Ymddengys fod grwpiau eraill wedi dod drosodd ar ôl hynny yn uniongyrchol o [[Fflandrys]] fel y bobl a ddilynai [[Wizo]], a fyddai'n arglwydd [[Daugleddau (cantref)|cantref Daugleddau]] yn nes ymlaen.
 
Roedd ymsefydliad y Ffleminiaid yn ne Penfro yn rhan o bolisi a fyddai'n cael ei disgrifio fel [[glanhau ethnig]] neu [[hil-laddiad]] heddiw. Mae'r hanesydd Normanaidd [[Ordericus]] yn cofnodi fod y Ffleminaid yn "lladd y Cymry (''Guali Britones'') fel cŵn."<ref>Dyfynwyd gan Michael Richter, ''op. cit.'' isod.</ref> Nid oedd y Cymry lleol yn barod i ildio heb ymladd a nodweddwyd gweddill y 12fed ganrif12g gan ryfel herwfilwrol ar raddfa eang rhang y Ffleminiad a'r Cymry. Ar ddiwedd y ganrif mae [[Gerallt Gymro]] yn nodi'r elyniaeth agored rhwng y Cymry a'r Ffleminaid.
 
Cymuned ar wahân oedd y Ffleminiaid. Ni fu cymathu o gwbl (gwahanol oedd hanes y Normaniaid; roedd Gerallt Gymro yn fab i Gymraes a Normaniad, er enghraifft). Roeddent yn arfer eu hiaith eu hunain ([[Fflemeg]]), ac yn cael eu dynodi ar wahân yn y gyfraith. Ymledasant o [[Rhos (Dyfed)|gantref Rhos]] i ardal [[Daugleddau (cantref)|Daugleddau]], [[Talacharn]] a rhannau eraill o dde Penfro.